“Ewch i bori” – Dyna gyngor yr actor Rhys Ifans, mewn fideo i dynnu sylw at Ddydd Miwsig Cymru sy’n cael ei gynnal heddiw.

“Mae’n sin gyda sawl wyneb,” meddai yn y fideo. “Mae yna bopeth o fiwsig gwerin wallgof i bobol sydd ar ymylon greim.

“Dewch mewn. Cloddfa hollol gyfoethog yw hi o aur y byd miwsig. Ac mae hi yma, ar stepen eich drws. Ewch i bori [am gerddoriaeth newydd].”

Mae’r actor wedi dewis tri o’i hoff ganeuon Cymraeg – ‘Y Teimlad’ gan Datblygu, ‘Torra Fy Ngwallt Yn Hir’ gan y Super Furries a ’Bourgoise Roc’ gan Geraint Jarman.

Dyma’r fideo o Rhys Ifans yn egluro sut y dewisodd ei hoff draciau…

 

Cyngor DJ Potter

I nodi’r diwrnod mae chwe rhestr chwarae arbennig wedi’u hel at ei gilydd gan y DJ Gareth Potter, oll â themâu gwahanol – gan gynnwys acwstig, cerddoriaeth electroneg a hamddena.

Mae’r rhain bellach ar gael i’w ffrydio trwy Spotify, Apple Music a Deezer; a hefyd ar gael trwy ddefnyddio’ch ffôn symudol i sganio codau arbennig ar bosteri ledled y wlad.

Gallwch weld cynnwys y chwe rhestr chwarae trwy ddilyn y ddolen yma: Rhestrau chwarae.