Ddeugain mlynedd ers colli’r diddanwr Ryan Davies mae ei gyfraniad yn parhau gyda’r gân ‘Nadolig Pwy a Ŵyr’ yn glasur, yn ôl tenor o Sir Benfro.

Mae dathliadau wedi’u cynnal yn ardal Llanfyllin eleni i gofio deugain mlynedd ers marwolaeth Ryan Davies yn 1977 a gafodd ei fagu yn yr ardal ond a gafodd ei eni yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin

Yn ôl Trystan Llŷr Griffiths mae cân Ryan Davies ‘Nadolig Pwy a Ŵyr’ “yn syml ond yn bert ac yn cyfleu’r Nadolig i’r dim”.

Mae’r tenor o Glunderwen newydd arwyddo cytundeb gyda label Decca ac er ei fod yn canu mewn amryw o wahanol ieithoedd ac wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn Nhŷ Opera Zürich does dim i gymharu â chanu yn y Gymraeg, meddai.

Mi fydd yn cyhoeddi ei albwm gyntaf gyda label Decca yn ystod 2018 ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at “gynrychioli Cymru a’r iaith Gymraeg.”