Mae angen mwy o ganeuon Nadolig “hwyliog” yn y Gymraeg, yn ôl cyn-aelod o’r Big Leaves a Sibrydion.

“Er bod digon o ganeuon prydferth Nadoligaidd yn y Gymraeg, dw i ddim yn gweld fod digon o rai hwyl ar gael,” meddai Mei Gwynedd wrth golwg360.

Am y rheswm hwnnw yr aeth ati y llynedd i ryddhau sengl Nadolig – ‘Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda’ – ar y cyd â disgyblion Ysgol Gynradd Treganna yng Nghaerdydd, lle mae ei blant ef ei hun yn ddisgyblion.

“Mae yna gymaint o rai yn y Saesneg i fedru llenwi mis cyfan o gerddoriaeth Nadoligaidd,” meddai wedyn.

Ond, mae’n cydnabod fod cyfansoddi cân Nadoligaidd yn medru bod yn her i gantorion am fod naws y gân yn dueddol o fod yn hollol wahanol i’r math o bethau y maen nhw’n ei ganu fel arfer.

Hoff gân

O ddewis ei hoff gân Nadoligaidd, does dim i guro ar Fairytale of New York, yn ôl Mei Gwynedd.

“Mae o ychydig bach yn wahanol ac mae jest yn gân brydferth. Dw i’n ffan mawr o waith Shane MacGowan,” meddai.

Mae’r sengl ‘Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda’ gan Mei Gwynedd ar gael ar iTunes, Amazon a Spotify.