Courtney Pine
Hanner dydd

Mae Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi newid. Er gwell ac er gwaeth.

Does dim angen mynd yn agos at y dre’; mae’r rhan fwya’n digwydd ar feysydd trwsiadus ysgol fonedd Coleg Crist.

Criw Gŵyl y Gelli sy’n rhedeg y sioe bellach ac maen nhw’n gwybod sut i redeg sioe. Trefn ar bopeth, popeth mewn trefn … ond tipyn o’r hen ysbryd ar goll.

Mae hi’n braf iawn wrth i bobol eistedd a lled orwedd rhwng y stondinau ar y brif lawnt ond does dim teimlad o’r dre’.


Plant a phobol ifanc yr ysgol haf
12.20 – gadewch i blant bychain

Mae’r hen ysbryd yn fyw yn y Neuadd Chwaraeon, a’r llwyfan yn llawn o bobol ifanc. A dyma’r prif berfformiad gan artistiaid o Gymru.

Criw rhwng 8 ac 18 oed ydyn nhw sydd wedi bod yn rhan o gwrs haf yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd – o bianyddion sy’n methu â chyrraedd y pedalau i gantorion, sacsaffonwyr a basyddion sy’n llawn o hyder yr arddegau.

Dan arweiniad cerddorion proffesiynol, maen nhw wedi eu rhannu eu hunain yn fandiau o wahanol oed, efo enwau fel Paula’s Pandas from Pluto, ac mae’n gyfle delfrydol i ddeall sut mae jazz yn gweithio.

Criw o’r rhai ieuenga’ sy’n taclo un o glasuron Theolonius Monk, Blue Monk, gan roi gwedd New Orleans iddi. Mae’r canolbwyntio’n glir ar bob wyneb.

Y peth mawr cynta’ ydi cael yr amser yn iawn. Mae’r bît ara’n cael ei osod a’i gynnal ac wedyn yr unawdwyr yn gosod ychydig nodau o unawd ar ei ben … yn ofalus a llawn bwriad.

Mae Lee’s Lunar Lions yn hŷn ac yn fwy mentrus a phawb yn chwarae amrywiaeth o batrymau ar ben y rhythm mwy cymhleth. Mae technegau clasurol perfformio jazz yn dechrau dod i’r amlwg, efo’r sŵn yn chwyddo’n raddol cyn gostwng eto ac ambell i berfformiwr, fel sacsaffonydd o’r enw Ben, yn swnio fel cerddorion profiadol.

Y rheiny sy’n gorffen y set – pedwar darlithydd yr ysgol haf yn dangos sut i wneud pethau dan arweiniad y basydd, Paula Gardiner.

Lle’r oedd unawdau’r plant yn cael eu gosod ynghanol y gerddoriaeth, fel ceiriosen ar ganol cacen, mae unawdau’r cerddorion proffesiynol yn tyfu o’r alawon –Paul Jones a’i rediadau ar nodau ucha’r piano, Lee Goodall yn gwau nodau ar y sacs, Mark O’Connor ar y drymiau’n cynyddu’r tempo a’r sŵn a Paula Gardiner ei hun yn awdurdodol ar y bas.

Dechrau da ac amser ymuno yn y ciw ar gyfer y babell fawr.


Zoe Rahman
2.30 – rhaeadr o wallt a phiano

Y gwallt sy’n eich taro chi gynta’. Llifeiriant ohono fo yn cyrraedd at sedd y piano.

Mae Zoe Rahman yn cael ei hystyried yn un o bianyddion gorau gwledydd Prydain ac mae’n edrych yn drawiadol hefyd.

Ar y ffordd draw, roedd ei gyrrwr wedi awgrymu fod ganddi dipyn o liw haul. Hi sy’n dweud y stori. Mae ei thad o Fangladesh.

Mae hynny’n berthnasol i’r set – yn enwedig gan fod ei nain ar ochr ei mam yn dod o Iwerddon a hithau a’r band wedi bod yn teithio trwy’r Ynys Werdd.

Mae seiniau cerddoriaeth draddodiadol y Bengaliaid a rîls Gwyddelig i’w clywed yn glir yn un o’r caneuon a fydd i’w clywed ar ei CD nesa’, Kindred Spirits. Mae’n dangos sut y mae jazz yn gallu bod yn sail i bob math o wahanol draddodiadau.

Erbyn hyn, mae brawd Zoe Rahman ar y llwyfan hefyd – clarinetydd sy’n gwneud i’w offeryn hedeg tros biano cyhyrog, miniog ei chwaer. Os oedd adran rhythm y plant yn bendant a phwyllog, mae drwm a bas yn mynd ar wib.

Ac wedyn darn ara’, a’r clarinét breuddwydiol a thincial nodau ucha’r piano’n creu darluniau o orllewin Iwerddon, yn llynnoedd, mynyddoedd a mawn.

“Dw i’n mynd i wneud Shirley Bassey rŵan – gan fy mod i yng Nghymru,” meddai Zoe Rahman. “Dw i’n mynd i newid fy nillad.”

Mewn deg munud, Zoe Rahman fydd y pianydd ym mand newydd y cawr Courtney Pine.

3.55 – Pine, y gerddoriaeth sy’n gwella’r byd

Does ganddo fo ddim sacs. Dim ond rhywbeth sy’n edrych yn debyg i sacs wedi ei stretsio i tua phum troedfedd o hyd. Mae’r dyn yn egluro. Clarinét bas ydi hwn.



Ond mae’r dechneg ryfeddol yr un peth. Nodau dyfnion fel taranau a’r rhai ucha’ fel ehedyddion. Mae Pine yn ddyn mawr a’i ysgyfaint yn fwy.

Dair gwaith yn ystod y set, mae’n cyflawni camp fawr y sacsaffonydd, yn cynnal un nodyn di-dor am funudau, gan chwythu ac anadlu’r un pryd.

Mae yntau’n dangos dylanwad mathau eraill o gerddoriaeth – o siantio eglwysig i gerddoriaeth dawnsio gwerin Lloegr.

Mi fyddai un gân, They Came From The North, yn gyfeiliant perffaith i ffilm am ryfelwyr o Lychlyn.

Mae’r curiad i ddechrau’n gadarn a dramatig a’r cyfuniad o’r clarinét bas, fiola a fiolin drydan yn anthemaidd o urddasol, cyn i Zoe Rahman (yn ei ail ffrog) dorri’r rhythm ac amrywio a rhaeadru’r sŵn yn ôl ac ymlaen o ochr dde’r piano.

Am ychydig, mae Amanda Drummond ar y fiola yn canu ei hofferyn a’i llais yr un pryd a’r sŵn fel llafarganu o oes arall. A Courtney Pine yn chwarae’r un patrwm o nodau, gan ddringo’r sgêl yr un pryd. Y cyffro’n cynyddu, cyn troi’n ôl at y curiad defodol, crefyddol bron i orffen.

Darnau o Symffoni rhif 9 gan Beethoven sydd nesa’ – a’r dorf yn clapio a chydganu i sain yr Ode to Joy. Mae yna ferch fach yn eu canol, tua thair oed efallai o dan ei het haul fach strepiog. Mae wrth ei bodd efo’r clapio, ei llygaid yn llawn rhyfeddod a’i gwên fel pelydryn o haul. Wrth iddi weiddi unwaith, mae hyd yn oed yn cael sylw Pine – mae ymyrraeth plentyn yn siwtio’r gân i’r dim.

Mae hon yn rhan o CD Europa. Un o negeseuon cyson Courtney Pine yw fod cerddoriaeth yn tynnu’r ddaear at ei gilydd.

“Os ydych chi eisio ysbrydoli pobol ifanc, dywedwch wrthyn nhw chwarae cerddoriaeth,” meddai. Ac yntau wedi dod o Lundain ar ddiwedd wythnos o derfysg, does dim angen dweud mwy.

Heblaw hyn: “Gŵyl Jazz Aberhonddu ydi un o’r rhai gorau yn y byd.” Mae’n gwybod sut i blesio.

6.00 – pianydd mewn poen

Tawel, addfwyn eu ffordd ydi Paula Gardiner a Zoe Rahman yn eu dull cyflwyno. Dyn sioe ydi Courtney Pine.


Elan Mehler
Mae Elan Mehler a’i driawd yn ddifrifol, yn ddifrifol iawn. Y pianydd, y basydd a’r drymiwr yn wynebu’i gilydd yn fwy na’r dorf. Nid fod gwahaniaeth – mae eu llygaid ynghau am y rhan fwya’ o’r set. Mae’r triawd o  Brooklyn yn edrych fel petaen nhw mewn poen.

Ond dyma un o bianyddion mwya’ addawol y byd jazz rhyngwladol ac mi allwch chi ddeall pam. Mae’r brawddegau hir yn llifo yn ôl ac ymlaen a chyfuniadau bach annisgwyl o nodau yn ei osod ar wahân.

Erbyn hyn, mae’r jazz wedi gadael patrymau pendant y plant ar ddechrau’r bore. Mae’r tri cherddor fel petaen nhw’n dilyn eu trywydd eu hunain ond gyda’i gilydd yr un pryd.

Yr uchafbwynt ydi hen gân gospel a’r alaw o wreiddiau jazz yn swynol ac urddasol. Yn raddol, mae’r amrywio’n dechrau. Y nodau’n dechrau amrywio, y curiad yn cael ei dorri a’i chwalu ychydig.

Ac wedyn mae’n cael ei throi tu chwith. Lle’r oedd yr amrywiadau’n lliwio ychydig ar yr alaw, cyn hir nodau gwreiddiol yr alaw sy’n lliwio’r chwarae mentrus, i’ch atgoffa chi o ble y daeth y cyfan.

Mae’r basydd a’r drymiwr yn gwneud llawer mwy na chadw amser. Maen nhw’n creu trwy’r amser.

Ac mae yna jôc hefyd. Ar ôl i’w fodryb argymell tabledi at ddolur gwddw, fe addawodd Mehler enwi cân ar ei hôl. Auntie-biotics yw honno.

7.30

Cyfle am hanner o gwrw lleol – Cerdyn. Da iawn. Mymryn o fwyd – mae Blas ar Gymru yma, un o’r ychydig elfennau Cymreig. Ac o dan goeden ar y lawnt, y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, a’i wraig, yr AC Julie.

8.00 – siwt hanesyddol o goch

AW! Mae hi’n brifo’r llygaid. Y siwt. Coch llachar, efo brodwaith aur. Tei goch, efo patrwm sgwarog aur a chrys … coch.

Ac mae gan Allen Toussaint holl driciau’r perfformiwr, efo’i wên barod, ei lais melodaidd a’i foesgarwch mawr.

Dyma un o gewri New Orleans, yn awdur a chynhyrchydd caneuon i bob math o gerddorion – o Lee Dorsey i Otis Redding – ers diwedd y 50au. Mae hefyd yn ganwr blws a jazz yn ei rinwedd ei hun a chorwynt Katrina, meddai, wedi ei orfodi i fynd ar y llwyfan.


Allen Toussaint
Dim ond y fo sydd yna, y fo, ei biano – a’i siwt.

Mae’n dweud straeon rhwng y caneuon … am un canwr coci. “Dw i’n hoffi coci … mae’n golygu y byddwch chi naill ai’n filiwnydd neu yn y carchar. Ac mi ddof i’ch gweld chi y naill ffordd neu’r llall.”

Ym mhiano Toussaint, mi allwch chi weld sut yr aeth ragtime a ‘stride’ yn ganu roc a rôl, o Fats Waller i Jerry Lee Lewis ac mae un medli o ganeuon fel hanes cerddoriaeth tros hanner canrif.

“I reckon I’m in Brecon” meddai amrywiad bach taclus ar un o’i hen ganeuon. Ac mae’n ddigywilydd yn ei ganmoliaeth … “Mae hi mor brydferth yma, does gyda chi unman i fynd ar ôl marw.” Does neb yn coelio, ond mae pawb yn esgus eu bod nhw.

Y stori ydi’r uchafbwynt. Stori hir, hamddenol am ei blentyndod, yn cael ei hadrodd tros dincial y piano, sydd weithiau yn lliwio’r dweud. Mae’n sôn am adael y ddinas fawr i ymweld â pherthnasau yn y wlad, lle’r oedd pobol yn siarad Creole ac yn eistedd ar eu portsh fin nos yn adrodd straeon a chreu cerddoriaeth.

Rhwng y piano a’r llefaru swynol, mae’r darlun yn dod yn fyw a’r plentyn oedd yno 65 o flynyddoedd yn ôl wedi dod yn fyw unwaith eto. Roedd yn teimlo’n saff a diogel, meddai Toussaint – neges arall i’r oes.




Amanda Drummond