Gareth Bonello
Mae cerddor o Gaerdydd wedi’i gyfareddu gan emynau Williams Pantycelyn ac mae wrthi’n ymchwilio i’w dylanwad ar ardal o ogledd ddwyrain India.

Yn rhan o ddoethuriaeth Gareth Bonello gyda Phrifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’n ymchwilio i gyfraniad emynau Cymraeg a Chymreig ar grefydd a cherddoriaeth Bryniau Khasia yn yr India.

Mae’n esbonio fod cenhadon y Methodistiaid Calfinaidd o Gymru wedi teithio i Fryniau Khasia rhwng 1841 ac 1969, a bod dylanwad Cristnogaeth yn parhau yn yr ardal hyd heddiw.

“Emynau oedd un o’r prif ffyrdd yr oedden nhw’n gallu denu torf i ddod i wrando arnyn nhw,” meddai canwr The Gentle Good wrth golwg360.

“Mi oedd llawer ohonyn nhw’n emynau gan Bantycelyn ac os ewch chi i Shillong [dinas yn Meghalaya] heddiw, mae’r rhan fwyaf o emynau maen nhw’n canu yn tarddu o Gymru,” meddai wedyn.

Dylanwad

Mae emynau Williams Pantycelyn wedi dylanwadu arno yntau, meddai, gan sôn y bydd yn trafod hynny mewn cynhadledd arbennig gyda Dafydd Iwan a Lleuwen Steffan ddydd Sadwrn (Hydref 14).

“Mae’r emynau’n llawn delweddau ac yn sôn am deithio o gwmpas Cymru, a dw i’n meddwl fod hynny wedi treiddio drwyddo i’r math o gerddoriaeth dw i’n ei wneud.”

Mae’r canwr hefyd wedi recordio clip arbennig ohono’n canu’r emyn ‘Pererin wyf mewn anial dir’ gan Williams Pantycelyn ar dôn ‘Hiraeth’ gan y cyfansoddwr Daniel Protheroe.

“Enw’r offeryn yw’r Duitara,” meddai gan esbonio ei fod yn offeryn traddodiadol o Fryniau Casia.

“Yn groes i hynny, wnaeth y cenhadon ymdrechu i gadw mynegiannau o ddiwylliant traddodiadol Khasi/Jaintia allan o’r capeli ar y cyfan, a chafodd offerynnau fel y Duitara eu gwahardd o’r gwasanaethau.”