Fe fydd dathliadau pen-blwydd canolfan Gymraeg Abertawe yn dechrau’r wythnos hon ac yn para deng niwrnod tan Hydref 21.

Agorodd Tŷ Tawe ei drysau am y tro cyntaf yn 1987 ac mi ddaeth yn galon y gymuned Gymraeg dros y tri degawd diwethaf. 

Cafodd Siop Tŷ Tawe ei hagor o dan reolaeth Dyfrig Thomas ar Fai 16 y flwyddyn honno, ac roedd y darlledwr poblogaidd Sulwyn Thomas yn bresennol ar gyfer yr agoriad swyddogol.

Ond fe gafodd yr adeilad cyfan ei agor gan y Cynghorydd Tyssul Lewis, arweinydd Cyngor Dinas Abertawe, ar Fedi 19. Y prynhawn hwnnw, roedd cyngerdd gydag Iwan Williams a noson jazz yng nghwmni Wyn Lodwig.

Cafodd y noson gyntaf i bobol ifanc ei chynnal ar Fedi 26 yng nghwmni’r band Ffenestri, ac fe ddaeth y cyfle cyntaf i ddysgu Cymraeg yn y ganolfan gyda gwers gyntaf y cwrs Wlpan ar Fedi 28.

Y dathliadau

Bydd y dathliadau’n dechrau gyda chyngerdd yng nghwmni Côr Tŷ Tawe nos Fercher (Hydref 11) am 7pm. Cafodd y côr ei sefydlu yn 1990 i bobol ifanc yr ardal, ac mae wedi ennill cystadleuaeth y corau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd bedair gwaith, ac wedi perfformio ym mhob cwr o Ewrop yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r côr o dan arweiniad Helen Gibbon, ac mae ei arlwy yn cynnwys emynau, darnau clasurol, alawon gwerin ac ambell i gân gyfoes.

Hanes y Gymraeg yn Abertawe

Noson o hanes sydd wedi’i threfnu nos Iau, Hydref 12 (7pm), yng nghwmni sylfaenydd y ganolfan, Heini Gruffudd a’r hanesydd, yr Athro Prys Morgan.

Fe fydd Heini Gruffudd yn hel atgofion am sefydlu Tŷ Tawe, tra bydd yr Athro Prys Morgan yn mynd â ni ar daith drwy hanes yr iaith yn y ddinas.  

Cerddoriaeth draddodiadol

Bydd y noson werin fisol boblogaidd yn cael ei chynnal nos Wener, Hydref 13 (8.30pm). Noson hwyliog i gerddorion a dilynwyr cerddoriaeth werin yw hon. 

Dywedodd y trefnwyr: “Dewch â’ch offerynnau i ymuno yn y sesiwn hwyliog hon, lle mae alawon cyfarwydd, detholiad o gwrw lleol a chwmni da mewn amgylchfyd cwbl anffurfiol.”

Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe

Nos Sadwrn, Hydref 14 (5pm), fe fydd y swynwr o Solfach, Meic Stevens yn cychwyn noson o adloniant cerddorol sydd hefyd yn cynnwys Lowri Evans, y gantores-gyfansoddwraig o Sir Benfro, y canwr-gyfansoddwr o Feirionnydd, Osian Morris, a’r band Bwncath o Gaernarfon. 

Prif leisydd Bwncath yw Elidir Glyn, enillydd cyntaf Tlws Sbardun yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae gan Meic Stevens a Lowri Evans gysylltiad â Tyrfe Tawe, gŵyl gerddoriaeth Gymraeg y ddinas, ers ei sefydlu yn 2004.

£10 yw pris tocynnau ar gyfer y noson hon (£7 yw pris tocynnau gostyngol).

Noson y Prifeirdd

Noson yng nghwmni Prifeirdd Abertawe sydd wedi’i threfnu nos Sadwrn, Hydref 15 (7pm).

Yn perfformio yn y noson hon fydd saith prifardd sydd â chysylltiad agos â’r ddinas – Tudur Hallam, Mererid Hopwood, Christine James, Aneirin Karadog, Emyr Lewis, Alan Llwyd a Robat Powel. 

Yn ôl i 1987 

Noson o nostalgia fydd i’w chael ar nos Sadwrn, Hydref 21 (7.30pm) wrth i Ffenestri ddychwelyd i Dŷ Tawe ar gyfer Noson Ffenestri: Nôl i’r 80au.

Dyma fand electronig trysorydd Tŷ Tawe, Geraint James ac mae hefyd yn cynnwys y diddanwr Martyn Geraint, a Bryn ac Ifan James. Perfformiodd y band ar noson agor canolfan Tŷ Tawe yn 1987.

Byddan nhw’n cael cwmni’r deuawd synth-pop Celwyddau o Gaerdydd a’r DJ Gareth Potter, oedd wedi perfformio ar lwyfan gŵyl Latitude dros yr haf.

‘Pobol leol greodd y lle’

Dywedodd sylfaenydd Tŷ Tawe, Heini Gruffudd: “Ar ôl yr holl ymdrech dros bum mlynedd i godi arian i brynu’r adeilad, ac wedyn y gwaith adeiladu gan wirfoddolwyr, heb ddimai o gefnogaeth y Swyddfa Gymreig a Bwrdd yr Iaith, mae’n gwbl wych edrych yn ôl yn awr ar y llwyddiant mawr.

“Pobol leol greodd y lle ac mae’r lle’n dal i roi modd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr a phobol ifanc fwynhau’r iaith mewn dinas gymharol Seisnigedig.”

‘Byddai bywyd yn go wahanol heb Dŷ Tawe’

Ychwanegodd Catrin Rowlands, cadeirydd Menter Iaith Abertawe sydd wedi’i lleoli yn Nhŷ Tawe: “Mentro i’r siop i brynu llyfrau wnes i yn gynta’ yn 1998 ar ôl dechrau yn y Brifysgol, a chanfod cymuned a fyddai yn rhan ganolog o ’mywyd i yn y ddinas byth ers hynny.

“Byddai bywyd yn go wahanol heb Dŷ Tawe – y côr, Cyrfe a Thyrfe Tawe, gigs a Sesiynau Gwerin, y cyfarfodydd, Siop Siarad (i ddysgwyr), y ‘partïon paentio’ a’r nosweithiau cymdeithasol hollbwysig cyson rheiny yng nghwmni cyfeillion.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Menter Iaith Abertawe ar 01792 460906.