Fe fydd cyngerdd arbennig ym Mhontrhydfendigaid ar Hydref 28 i nodi deng mlynedd ers sefydlu elusen i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas.

Cafodd Amser Justin Time ei sefydlu gan y gantores Shân Cothi yn dilyn marwolaeth ei gŵr Justin Smith, prif leisydd y band Tigertailz, ac yntau ond yn 42 oed yn 2007.

Bydd y gyngerdd yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Bont, a thocynnau i oedolion yn £15 (mynediad am ddim i blant).

Perfformwyr

Stifyn Parri fydd yn arwain noson sy’n serennu Rhys Meirion, Elin Fflur, Aled Wyn Davies, Gwawr Edwards a Mark Evans.

Hefyd yn perfformio fydd Côr Godre’r Aran, Côr Proms Ysgolion Ceredigion a Bois y Fro.

Bydd John Quirk a Jeff Howard ymhlith y cerddorion fydd yn perfformio ar y noson.