Cor Caerdydd yn perfformio yn Rwmania (Llun: Cyfrif Facebook Cor Caerdydd)
Mae côr o Gaerdydd wedi rhyddhau datganiad ar eu cyfryngau cymdeithasol yn sôn sut y bu tarfu ar un o’u perfformiadau yn Rwmania dros y penwythnos gan “brotestwyr adain dde”.

Roedd Côr Caerdydd, sy’n ymarfer yn Nhreganna fel arfer, wedi cael gwahoddiad i berfformio gwaith gan y cyfansoddwr o Gymru, Karl Jenkins, mewn cyngerdd arbennig yn ninas Cluj yn Rwmania.

Ond, yn ôl eu datganiad, cafodd yr ail symudiad “call to prayer” ei amharu arno gan “brotestwyr adain dde sy’n gwrthwynebu presenoldeb Mwslemiaid yn Rwmania”.

‘Hebrwng o’r tŷ opera’

Ychwanegodd y datganiad fod yr heddlu wedi rhoi gwybod i’r trefnwyr “ymlaen llaw” y byddai’r protestwyr yn dod i’r perfformiad a bod y protestwyr wedi’u hebrwng “o’r tŷ opera gan yr heddlu”.

“Er gwaethaf yr ymyriad yma aeth y perfformiad yn ei flaen yn llwyddiannus. Roedd yr arweinydd, Flavius Filip a chyfarwyddwr y tŷ opera, Florin Estefan wrth eu boddau â’r perfformiad,” meddai’r datganiad.

“Mae Côr Caerdydd yn hynod falch o fod wedi cael bod yn rhan o’r perfformiad angerddol yma o’r offeren hon.”

Y perfformiad

Roedd y côr yn perfformio darn o’r enw ‘The Armed man: A Mass for Peace’ gan Karl Jenkins ac fe gawsant eu gwahodd yno gan gyfarwyddwr yr Opera Nationala Romana yn Cluj.

Cafodd y darn ei gomisiynu gan y Royal Armouries Museum i gofio dioddefwyr argyfwng Kosovo yn 1999.

Mae’r côr yn esbonio fod y darn yn cynnwys “symudiadau offeren Lladin traddodiadol yn ogystal â darnau o draddodiadau a chrefyddau eraill. Mae’n cwmpasu elfennau rhyfel o ymbaratoi, erchyllterau rhyfel a’r galar wedi’r ymladd, a’r dyhead am heddwch.”

Un oedd yno’n canu alto gyda’r côr oedd Sioned Wyn o Gaerdydd ac esboniodd ei bod yn teimlo’n “ofnus iawn.”

“O’n i’n bersonol yn eithaf ofnus … a hanner y broblem i bob un ohonom ni o Gôr Caerdydd oedd nad oeddem ni’n deall beth oedden nhw’n ddweud,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e’n eithaf amlwg erbyn y diwedd eu bod nhw’n protestio yn erbyn y call to prayer yn benodol,” meddai.

Ac wrth siarad â’r trefnwyr ar ddiwedd y gyngerdd fe ddaethon nhw i ddeall fod heddlu mewn festiau gwrth-fwled a masgiau wedi cludo’r protestwyr allan o’r tŷ opera.

Mwy am y profiad gan Sioned Wyn yma…