Mae label recordio sy’n cynrychioli sawl artist Cymraeg oedd yn canu yng Ngŵyl Rhif 6 wedi cwyno am y ffordd “warthus” cawson nhw eu trin yn y digwyddiad.

Mae Recordiau Neb wedi ysgrifennu at y trefnwyr gan ddweud bod eu profiad wedi bod yn “shambyls llwyr”.

Yn y llythyr, roedd yn rhaid i’r artistiaid Cymraeg gario eu hoffer eu hunain o’r meysydd parcio ar y bysiau gwennol i’r llwyfan ‘Lost in the Woods’, lle’r oedd y bandiau Cymraeg yn perfformio.

Cymerodd hi dair awr a hanner, meddai Recordiau Neb, iddyn nhw hebrwng cit y band electroneg, Twinfield, i’r llwyfan oedd wedi’i guddio yn y goedwig.

Fe welodd Twinfield bod llawer o’u hofferynnau wedi cael eu gadael yn y glaw cyn iddyn nhw chwarae a hanner ffordd drwy eu perfformiad, bu toriad yn y trydan gan olygu mai dim ond pedair cân cafodd y band eu chwarae.

Dywed Rhys Aneurin, gynt o Yr Ods, sy’n aelod o Twinfield, ar Twitter nad nhw yn unig gafodd brofiad gwael.

Mae Ani Saunders, neu Ani Glass, wedi trydar i ddweud mai dyma’r profiad gwaethaf iddi gael o chwarae mewn gŵyl mewn deng mlynedd o ganu.

“Dim gofal” i fandiau Cymraeg

“Cawsom ni brofiad ofnadwy!” meddai Recordiau Neb yn eu llythyr at y trefnwyr.

“… Wrth siarad â sawl act arall oedd ar ein llwyfan, roedden nhw hefyd yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn wael.

“Mae’n edrych fel bod y bandiau Cymraeg i gyd wedi cael eu pentyrru ar un llwyfan heb ofal, wedi’u cuddio yn y goedwig fel ychydig o ddifyrrwch ychwanegol i bobol oedd yn mynd heibio a heb ystyriaeth ddifrifol o gwbl.

“Cafodd hyn ei wneud yn fwy amlwg ar ôl i chi gam-sillafu’r gair [enw band] ‘Gwyllt’ ar arwydd y llwyfan.

“… Mae POB artist yn haeddu’r un lefel o barch.”

Datganiad Gŵyl Rhif 6

Er i Recordiau Neb godi eu pryderon â threfnwyr Gŵyl Rhif 6 dros wythnos yn ôl, dim ond heddiw maen nhw’n cael ymateb gan yr ŵyl sydd wedi addo edrych i’r sefyllfa.

Mewn datganiad i golwg360, dywed yr ŵyl: “Rydym yn falch iawn o arddangos talent gorau Cymru yn ein cartref hyfryd, Portmeirion.

“Rydym yn ymwybodol y bu rhai problemau logistaidd gyda nifer bychan o artistiaid eleni, doedd hynny yn sicr ddim yn gyfyngedig i artistiaid Cymraeg a byddwn yn rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad yw’n digwydd eto.”