Kiri Te Kanawa
Mae’r gantores opera fyd enwog Kiri Te Kanawa wedi cyhoeddi’n swyddogol ei bod hi wedi ymddeol yn 73 oed.

Daw’r cyhoeddiad flwyddyn ar ôl ei pherfformiad cyhoeddus diwethaf.

Dywedodd hi bod ei llais “yn y gorffennol” ac nad oedd hi am ei glywed eto, ond ei bod hi wedi bod yn pendroni ynghylch y penderfyniad ers pum mlynedd.

Daeth y gantores o Seland Newydd i amlygrwydd yn 1971 mewn perfformiad o The Marriage of Figaro yn Covent Garden yn Llundain.

Daeth ei pherfformiad cyhoeddus olaf fis Hydref diwethaf yn Awstralia.

“Dyna oedd y diwedd,” meddai, gan ychwanegu nad yw hi’n teimlo ei bod hi wedi cyrraedd “perffeithrwydd 100%” yn ystod ei gyrfa.