Mae ardal Llandysul yn ne Ceredigion wedi llwyddo i godi £40,000 i gynnal yr Ŵyl Gerdd Dant ym mis Tachwedd.

“Mae wedi bod yn dipyn o sialens, ond rydyn ni wedi cydweithio’n dda fel pwyllgor ac o fewn yr ardal,” meddai Keith Evans wrth golwg360.

Esboniodd y cynghorydd sir sy’n gadeirydd ar y pwyllgor gwaith eu bod wedi cael dwy flynedd i gasglu noddwyr, trefnu digwyddiadau a llunio’r rhaglen ar gyfer yr ŵyl.

Dathlu’r 70

Mae’r ŵyl yn dathlu 70 mlynedd eleni a hynny wedi i’r ŵyl gyntaf gael ei chynnal yn 1947 yn y Felinheli.

“Yn naturiol, ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pobol yma i Landysul,” meddai Keith Evans gan esbonio iddi ymweld â’r ardal ddiwethaf yn 1960.

Mae’r tlysau wedi’u creu eleni gan Andy Walters, athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Bro Teifi, ac mae’r logo wedi’i ddylunio gan Rhys Bevan-Jones sy’n wreiddiol o Landysul ond yn byw yng Nghaerdydd.

Bydd yr Ŵyl Gerdd Dant yn cael ei chynnal yn Ysgol Uwchradd Bro Teifi, Tachwedd 11.