Beti George gyda'i gwobr (Llun: golwg360)
Beti George yw enillydd Gwobr Geraint Stanley Jones eleni, a hynny am ei chyfranid i ddarlledu cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r dystysgrif gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru yn nodi bod y ddarlledwraig yn derbyn y wobr am “ei chyfraniad i gyfathrebu cerddoriaeth trwy ddarlledu”.

“Mae hi’n dipyn o anrhydedd derbyn y wobr hon oherwydd mai Gwobr Geraint Stanley Jones yw hi,” meddai Beti George wrth golwg360.

Fe fu hi’n cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth glasurol ac opera, gan wybod, meddai wedyn, bod Rheolwr BBC Cymru yn gefnogol i’r gwaith yr oedd hi’n ei wneud.

Bu farw Geraint Stanley Jones ddiwedd Awst 2015. Fe fu’n Brif Weithredwr S4C rhwng 1989 ac 1994, a chyn hynny’n Rheolwr BBC rhwng 1981 ac 1989.