Fe fydd Opera Cenedlaethol Cymru yr hydref hwn yn nodi canmlwyddiant y chwyldro yn Rwsia trwy berfformio tri darn o waith wedi’u seilio ar y wlad.

Union gan mlynedd ers y Chwyldro yn Rwsia yn 1917 a gychwynnodd y daith tuag at sefydlu’r Undeb Sofietaidd, y tri darn o waith fydd yn cael eu perfformio fydd Kovanshchina gan Modest Musorgsky, Eugene Onegin gan Pyotr Tchaikovsky a From the House of the Dead gan Leos Janáček, sy’n seiledig ar y llyfr gan Fyodor Dostoevsky.

Er bod y tri yn archwilio agweddau gwahanol ar hanes diwylliannol Rwsia – y Rwsia gyfriniol, y Rwsia ramantaidd a’r Rwsia wedi’i chadwyno – mi fyddan nhw hefyd yn trafod materion sy’n dal i fod yn berthnasol i hunaniaeth ddiwylliannol y Rwsia gyfoes.

Mae’r perfformiadau hefyd yn dynodi’r cydweithrediad cyntaf rhwng David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, a Tomás Hanus, y cyfarwyddwr cerddoriaeth.

Y Chwyldro’n cychwyn yng Nghaerdydd

Mi fydd taith y cwmni opera yn cychwyn yng Nghanolfan Milleniwm Cymru yng Nghaerdydd gyda pherffromiadau yn cael eu cynnal yno rhwng dydd Sadwrn, Medi 24 a Sadwrn, Hydref 14.

Bydd y cwmni hefyd yn ymweld â Venue Cymru yn Llandudno (Hydref 24-28) ac mi fydd yna gyngerdd arbennig gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd (Tachwedd 23) lle bydd y symffoni Leningrad (Rhif 7) gan Dmitri Schostakovich yn cael ei pherfformio.