Gwion Thomas a Caryl Hughes wrthi'n ymarfer ar gyfer opera Y Tŵr
Mae un o gantorion opera newydd yn y Gymraeg yn dweud ei fod yn rhyfeddu nad oes mwy wedi cyfansoddi operâu yn yr iaith o ystyried “greddf y Cymry i ganu”.

Y bariton, Gwion Thomas sy’n byw yng nghyffiniau Northampton, sy’n portreadu’r gŵr yn opera newydd Y Tŵr addasiad o ddrama Gwenlyn Parry gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1978.

Am y deufis nesaf, fe fydd yn rhannu llwyfan â’r soprano Caryl Hughes wrth iddyn nhw fynd â’r cynhyrchiad ar daith o gwmpas theatrau Cymru.

“Dw i wedi bod yn chwilio am rywbeth fel hyn ers amser maith achos mae rhywun yn canu ar ei orau yn iaith ei fam a’i dad,” meddai Gwion Thomas sy’n wreiddiol o Abertawe.

‘Gwaith aruthrol’

Esboniodd mai dyma fydd yr opera gwreiddiol Gymraeg gyntaf i gael ei chynhyrchu’n broffesiynol gan Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales.

“Mae hynny’n rhyfeddol achos mae greddf gan y Cymry i ganu, ond does dim traddodiad cryf o operâu wedi bod yn y Gymraeg,” meddai gan gyfeirio at gyfieithiadau ac addasiadau.

Mae’r opera hon wedi’i chyfansoddi gan y cyfansoddwr sy’n wreiddiol o’r Bala, Guto Pryderi Puw, gyda Gwyneth Glyn yn cymryd at y geiriau.

“Maen nhw wedi gwneud gwaith aruthrol, ac mae seicoleg gymhleth y ddrama i’w chlywed yn y gerddoriaeth,” meddai wrth golwg360.

Mae’r opera’n adrodd stori dau gariad yn dringo tŵr dros gyfnod a dair cenhedlaeth, a dywedodd Gwion Thomas – “dw i wedi gwirioni ar ba mor gynnil yw hi.”