Wrth lansio’r ŵyl yn swyddogol, mae Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi’r deg prif fand fydd yn perfformio eleni.

Mewn Gŵyl Gwrw i lansio’r ŵyl yn Nhŷ Siamas, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd Sŵnami, Lowri Evans a Tecwyn Ifan ymhlith rhai o fandiau mwya’r penwythnos.


Ifan Davies, Swnami (llun: Y Selar/Celf Calon)
Mae prif fandiau eraill y lein yp yn cynnwys y deuawd Lewis and Leigh – sef Al Lewis a’r pherfformwraig o Mississippi, Alva Leigh.

Bydd y band gwerin, Calan, y gantores Alys Williams a’r grŵp o Bontypridd, Climbing Trees.

O’r Alban, bydd y grŵp gwerinol, Peatbog Faeries yn chwarae, y pedwarawd gwerinol o Iwerddon, Dallahan, a Coco and the Butterfields, sy’n fand electro acwstig o Kent yn Lloegr.

Mae disgwyl cyhoeddi mwy o fandiau  cyn i’r ŵyl ddigwydd ar 21, 22 a 23 Gorffennaf eleni.

Mae’r Ŵyl Gwrw p’nawn ‘ma yn cynnwys bandiau Patrobas, Yr Oriau, Dave Bradley, Bwncath ac Alun Cadwaladr.