Mae’r ap ffrydio cerddoriaeth Gymraeg, Aptôn, yn weithredol unwaith eto wedi iddo gael ei hacio yr wythnos ddiwetha’.

Ymosododd hacwyr ar weinydd Aptôn, gan ofyn am bridwerth o £200 i’w gael yn ôl. Er bod cwmni Sain wedi ystyried talu’r hacwyr, fe gawson nhw gyngor cyfreithiol i beidio, rhag i’r hacwyr ofyn am fwy a mwy.

Yn ôl Dafydd Roberts, prif weithredwr cwmni Sain, fe gafodd tua 2,000 o gwmnïau ar draws y byd eu heffeithio gan yr hac, ond bellach mae diogelwch meddalwedd yr ap wedi cael ei uwchraddio ac mae modd defnyddio’r ap unwaith eto.

“Mae Aptôn yn ôl yn fyw ac yn iach,” meddai Dafydd Roberts wrth golwg360.  “Mae pob dim wedi ei achub, ac mae diogelwch y gweinydd wedi ei uwchraddio.”

Fe lansiwyd yr ap ddiwedd Hydref, gyda chymaint â 1,300 o bobol yn tanysgrifio dros gyfnod y Nadolig.