9Bach (Llun oddi ar www,9bach,com)
Hyd yn hyn, mae pedwar albwm Cymraeg eu hiaith wedi cael eu rhoi ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Fe ddaeth y cyhoeddiad bod albwm cyntaf, Sŵnami – Sŵnami, Anian – trydydd albwm 9Bach, albwm Datblygu, Porwr Trallod, ac albwm cyntaf Alun Gaffey – Alun Gaffey, wedi’u henwebu.

Mae Crab Day gan Cate Le Bon a 2013 gan Meilyr Jones hefyd ar y rhestr.

Dyma’r flwyddyn gyntaf i gymaint o gerddorion Cymreig ei hiaith gyrraedd y rhestr fer, y llynedd roedd tri ar y rhestr a Gwenno Saunders, gyda’i halbwm Y Dydd Olaf a gipiodd y wobr.

12 albwm fydd yn y rhestr fer, a hyd yn hyn, mae naw ohonynt wedi cael eu cyhoeddi, gyda’r band Skindred o Gasnewydd, y grŵp Simon Love a The Anchoress wedi cyrraedd y brig hefyd. Mae disgwyl i’r tri albwm arall gael eu cyhoeddi ar Twitter yn ddiweddarach prynhawn ‘ma.

Bydd yr enillydd yn cael eu cyhoeddi yn The Depot yng Nghaerdydd ar 24 Tachwedd ac mae modd prynu tocynnau o heddiw ymlaen.

Y rhestr fer…

* 9Bach – Anian (Real World Records)

* Alun Gaffey – Alun Gaffey (Sbrigyn Ymborth)

* The Anchoress – Confessions Of A Romance Novelist (Kscope)

* Cate Le Bon – Crab Day (Turnstile)

* Datblygu – Porwr Trallod (Ankst)

* Meilyr Jones – 2013 (Moshi Moshi)

* Simon Love – It Seemed Like A Good Idea At The Time (Fortuna Pop)

* Skindred – Volume (Napalm Records)

* Sŵnami – Sŵnami (Recordiau I Ka Ching)