Beth yw eich hoff gân Nadolig chi?
Ydy, mae’r Nadolig ger ein bron unwaith eto, a’r llwch yn cael ei chwythu oddi-ar gloriau’r senglau Nadoligaidd sy’n eistedd ar silffoedd gorsafoedd radio ledled y byd.

Mae’r un yn wir yn y Gymraeg wrth gwrs, ac mae rhai o’r caneuon tymhorol yna sy’n diflannu am 11 mis o’r flwyddyn yn cael eu chwarae hyd syrffed am ychydig wythnosau.

Ond beth ydy’r caneuon Nadolig Cymraeg gorau? Marged Gwenllian sydd wedi bod yn chwilota ac wedi llunio rhestr 10 Uchaf caneuon Nadolig Cymraeg….

10. Nadolig Llawen Gwyn – Bob Delyn A’r Ebillion

Mae llais dwfn Twm Morys yn canu’n onest ac araf am ddiflastod Nadolig hen ddyn, cyn sylweddoli’r hiraeth sydd ganddo am gyffro’r ŵyl pan oedd o’n blentyn. Mae’r gobaith sydd ynddi yn glyfar ac yn llwyddo i’w rhoi ar y rhestr.

9. O na! Mai’n ddolig eto – Frizbee

O ystyried fod gan Ywain Gwynedd ddwy gân ar y rhestr yma, dwi’n amau’n gryf ei fod o wir yn ochneidio ei bod hi’n ‘ddolig eto. Ond mae hi’n sicr yn gân egnïol sy’n cyffroi pawb arall at yr ŵyl.

8. Sêr y Nadolig – Fflur Wyn

Llais hyfryd sy’n disgleirio’n union fel y mil o lampau mân.

7. Bachgen a Aned – Geraint Griffths/Sonia Jones

Tra’n coginio’r twrci, dathlwch yr ŵyl yn iawn drwy chwarae hon yn uchel nes eich bod yn dawnsio ar hyd y tŷ … mae’n anodd peidio.

6. Fy Nghariad Gwyn – Yws Gwynedd

Hon yw’r gân ddiweddaraf i ymddangos ar y rhestr, ac mae hi’n sicr yn haeddu ei lle. Mae gan Yws Gwynedd ddawn i greu ymdeimlad Nadoligaidd drwy ddefnyddio offerynnau pres, sy’n cyd-fynd â geiriau hyfryd i ddatgan ei gariad er gwaethaf caledwch y cyfnod rhewllyd.

5. Gŵyl y Baban – Caryl Parry Jones

Harmonïau gwych, geiriau cryfion a llais pwerus Caryl. Roedd yn rhaid i’r gân hon fod ar y rhestr.

4. Nadolig Pwy A Ŵyr – Ryan Davies

Y glasur fwyaf ar y rhestr efallai. Does ond angen cychwyn canu “Tinsel ar y…” nes bod pawb yn siŵr o ymuno.

3. Haleliwia – Brigyn

Anaml iawn y mae cyfeithiadau o gân yn llwyddo i fod yn well na’r wreiddiol, ond dyna yw’r farn gan lawer am hon, ac fe gafodd sêl bendith y cyfansoddwr gwreiddiol. Mae’n debyg mai dim ond i’r Gymraeg y mae hi wedi cael ei chyfieithu hefyd, sy’n ei gwneud hyd yn oed yn fwy arbennig.  Cân gwbl hudolus.

2. Noson Oer Nadolig – Meic Stevens

Gall tynerwch sŵn gitar, telyn a llais meddal Meic gynhesu unryw noson oer.

1. Un Seren – Delwyn Siôn

Nid oes posib meddwl am y gân yma heb wenu a theimlo naws y Nadolig. Mae ei symlrwydd a’i gonestrwydd yn gweddu’n berffaith i ystyr y cyfnod arbennig hwn o’r flwyddyn.

Oes ‘na glasur o gân Nadolig Gymraeg yn eisiau ar restr Marged? Rhowch eich sylwadau isod.