Steffan a Gwion o Roughion
Un peth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes Eisteddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.

Drwy gydol yr wythnos hon mae golwg360 wedi bod yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid sydd wedi mentro i’r maes yng Nghaerffili, gan ei holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.

Ac fe fydd cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion hefyd, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.

Rydyn ni’n barod wedi cael sgwrs gyda Plu, Gildas, Calan, ac y Y Ffug, a heddiw tro Roughion oedd hi i gael eu holi.

Mae ddeuawd o gerddorion electronig, Steffan Woodruff a Gwion Llŷr, yn dod o Aberystwyth ac yn adnabyddus am eu hoffter o ddefnyddio samplau Cymraeg enwog yn eu cerddoriaeth.

Dyma ni’n cael gair sydyn â’r ddau ar y maes heddiw: