Gildas yn chwarae
Un beth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes Eisteddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.

Drwy gydol yr wythnos hon fe fydd golwg360 yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid sydd wedi mentro i’r maes yng Nghaerffili, gan ei holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.

Ac fe cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion hefyd, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.

Heddiw fe ymunodd Gildas, neu Arwel Lloyd, â ni ar y maes i sgwrsio gyda Gwion Llŷr am ei drydydd albwm ‘Paid a Deud’, sydd allan heddiw.

Ar ôl i ni sgwrsio â’r cerddor o Lansannan fe gawson ni hefyd i glywed cân oddi ar ei CD diweddaraf, ‘Nia’.

Gallwch wrando ar y sgwrs a chân yma:

Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Gildas, a chael rhagor o wybodaeth am sut i brynu ei albwm newydd, ar ei wefan a’i dudalennau Soundcloud, Facebook, a Twitter.