Welsh Whisperer yn dychwelyd ag albwm newydd

Diweddarwyd am  



I unrhyw un sydd yn teimlo nad oes yna ddigon o gerddoriaeth gwerin, pop a gwlad ysgafn a hwyliog yn y Gymraeg, mae gennych chi reswm i lawenhau.

Ar ôl cyfnod i ffwrdd o gerddoriaeth Gymraeg – “wedi ymddeol i Benidorm”, meddai’r canwr – mae’r Welsh Whisperer yn ôl gydag albwm newydd o ganeuon, Plannu Hedyn Cariad.

Mae’r Welsh Whisperer yn ganwr pop, gwlad a gwerin Cymraeg sy’n talu teyrnged i oreuon ein cenedl (yn ei farn ef, beth bynnag!) megis Dafydd Iwan, Tony ac Aloma, a John ac Alun.

Ond mae tipyn o hiwmor y tu ôl i’r cymeriad hefyd – Andrew Walton yw enw iawn y canwr – wrth iddo ganu am ferched cefn gwlad, cig, cwrw, bara brith a beudai glan mewn ffordd ddigon tafod mewn boch.

“Dwi bellach nôl yng Ngwlad y bacwn a’r wy ac yn chwifio’r faner unwaith eto!” meddai’r Welsh Whisperer wrth golwg360.

“Teimlaf fod ‘Plannu Hedyn Cariad’ yn gyfle i mi dangos fy nheimladau tuag at y pethau sy’n poeni rhywun o gefn gwlad Cymru.

“Pethau fel pwy sy’n mynd i bobi’r bara brith os ydy Greggs yn cymryd dros y becws? Neu beth os ydy pob tafarn yn gwerthu cwrw Fosters yn lle Felinfoel?”

Dyma ragflas o’r albwm:

Angen mwy o bopeth!

Mae’r caneuon yn sicr yn ymdrin â’r themâu cefn gwlad mewn ffordd ysgafn iawn, ond nid yn unig mwy o gerddoriaeth o’r math yma sydd ei angen yng Nghymru, yn ôl y canwr.

“Dwi ddim yn meddwl bod angen mwy o unrhyw beth penodol o ran cerddoriaeth Gymraeg, ond mwy o BOPETH!” ebychodd Welsh Whisperer.

“Wrth gwrs mae ‘na fandiau ac artistiaid o bob math yn cynhyrchu cerddoriaeth wych ac ofnadwy, ac mae hwnna’n beth da!

“Yn bersonol dwi wrth fy modd yn ymlacio gyda Piña Colada (llaeth Sir Gâr) ac yn gwrando ar gasets Beti a Siân er enghraifft, ac mi fydd na nifer eraill  eisiau ymlacio gyda Smirnoff Ice a Bryn Fôn – gwych!

“Ond hoffwn weld llawer mwy o ddewis, ar ffurf caneuon, rhaglenni teledu, gwefannau, gorsafoedd radio, cylchgronau, papurau newydd a mwy.”

Mae Walton wedi bod yn brysur ar brosiectau eraill hefyd, gan gynhyrchu sioeau radio ar gyfer Radio Beca a Môn FM, a recordio cân fel rhan o’r ymgyrch i sefydlu Newsnight Cymru.

“Yr unig ffordd i dyfu yw drwy gynhyrchu mwy o bethe da trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai. “Nid bod fy albwm i yn ‘dda’ o reidrwydd – ond mae Cangen Gronw Merched y Wawr wrth eu boddau yn barod!”

Am fwy o wybodaeth am sut i brynu’r albwm gallwch fynd i wefan www.tarwdu.com, neu dudalennau Facebook, Twitter a SoundCloud Welsh Whisperer.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Gwobrau BAFTA Cymru 2018