Ed Holden
Mae Ed Holden aka Mr Phormula wedi glanio ar y sîn hip-hop Gymraeg gyda bang unwaith eto gyda’i albwm ddiweddaraf yn cael ei lansio heddiw – ac mae’r rapiwr yn credu mai hon yw ei gasgliad gorau o ganeuon hyd yma.

Cymud yw teitl yr albwm ddwyieithog, ac mae Ed Holden, y dyn y tu ôl i’r enw rapio Mr Phormula, yn hyderus ei fod wedi llwyddo i gynnal safon uchel drwy’r holl draciau.

“Mae o’n albwm tew – does dim byd gwan arni,” meddai Ed Holden.

“Mae o i gyd yn bangio.”

Brooklyn

Newydd ddychwelyd y mae Ed Holden o Efrog Newydd ar ôl bod yn perfformio yn Harlem a Brooklyn, cartref ysbrydol cerddoriaeth hip-hop, ac mae’r bît-bocsiwr wedi casglu rhai o dalentau Cymru a thu hwnt i gyfrannu at yr albwm newydd.

Mae’r albwm yn cloi gyda’r gân ‘Hip hop Cymraeg’, sy’n ddathliad o rap Cymraeg ag arni ddeg o rapwyr eraill yn cyfrannu – Dybl L, Hoax, Cofi Bach a Tew Shady, John Gedru (Llwybr Llaethog), Saismundo, Sleifar, Sheff (Tystion), Rufuss Mufassa ag Aneirin Karadog.

Ac mae Ed Holden eisoes wedi rhyddhau fideo o fersiwn Saesneg y gân ‘Y Lleiafrifol’, gafodd ei ffilmio o dan yr A55 yng ngogledd Cymru – gallwch weld ei gampwaith yma:

Gigs

Bydd Ed Holden hefyd yn mynd ar daith i hyrwyddo’r albwm, sy’n cael ei ryddhau yn Rascals, Bangor heno, gan ymweld â Chlwb Snwcer Bangor; Y Gwdihŵ, Caerdydd; Yr Angel, Aberystwyth; Circles, Aberdaugleddau; a Gŵyl Focus Wales, Wrecsam dros y mis nesaf.

I brynu’r albwm ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â gigiau Ed Holden, ewch i www.mrphormula.com.

Gallwch hefyd ddarllen cyfweliad llawn gydag Ed Holden yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.