Mae arweinydd enillwyr Côr Cymru yn dweud bod y llwyddiant wedi rhoi hwb fawr i’r côr – ac maen nhw bellach yn ystyried teithio dramor a chystadlaethau rhyngwladol.

Nawr bod y fuddugoliaeth wedi cael amser i setlo, mae arweinydd Côr y Wiber, Angharad Thomas, ar ben ei digon.

“Mae e’n deimlad gwych, ar ôl yr holl waith caled, i gyrraedd y brig,” meddai wrth Golwg360.

“Ac roedd yr holl waith paratoi at y rowndiau wedi codi safon y côr hefyd. Fe wnaeth e roi ffocws i ni a rhywbeth i weithio tuag ato. Fi’n sicr wedi mwynhau a fi’n meddwl bod y côr wedi hefyd!”

Er mai côr cymharol newydd yw’r criw merched o ardal Castellnewydd Emlyn, fe enillon nhw dlws Côr Cymru a gwobr o £4000 yn Aberystwyth nos Sadwrn trwy guro pum côr arall – Côr Iau Glanaethwy, Côr y Cwm, Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Côr Meibion Rhosllannerchrugog, ac CF1.

Perspectif tramor

Mae’r ffaith bod cerddorion rhywngwladol yn beirniadu’r gystadlaeaeth hefyd wedi rhoi hyder i Angharad Thomas a’i chôr.

Roedd y rheinhy’n cynnwys cyn gôr-feistr Cadeirlan St Paul’s yn Llundain, Dr Barry Rose, yr arweinydd corau André van der Merwe o Cape Town, De Affrica, a Katie Thomas, cantores, arweinydd a chyfansoddwr o Geredigion.

“Mae’n braf cael beirniad gwahanol,” meddai Angharad.  “Ac mae’n rhoi perspectif o dramor i ni hefyd. Roedd y rhaglen o ganeuon wnes i eu paratoi i’r rowndiau mewn gwahanol ieithoedd felly roedd hi’n raglen wahanol i ni fel côr hefyd.

“Mae hi wedi bod yn daith hir ond mae ennill y gystadlaeaeth wedi rhoi hwb i ni fel côr i ystyried teithio dramor i gystadlaethau rhyngwladol ac mae’r wobr ariannol am fod yn help mawr i ddatblygu’r côr.”

Rhywbeth yn y dŵr

Dim ond pedair blynedd yn ôl y cafodd y côr ei sefydlu a hynny ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron.

“Fe wnaeth y côr gystadlu dan enw Aelwyd Emlyn ac yna, gan ei ein bod ni’n mwynhau canu a chwmni ein gilydd, fe aethon ni ymlaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010 a dyna oedd dechrau Côr y Wiber.”

Yr ysbrydoliaeth tu ôl i enw’r côr yw chwedl Gwiber Emlyn – stori am y wiber fawr a ymosododd ar y dref ond a gafodd ei lladd gan y bobol leol. Trodd afon Teifi’n goch oherwydd y gwaed a’r gwenwyn a lifai o’r wiber.

Mae Angharad Thomas hefyd yn canu gyda Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn sydd wedi ennill cystadleuaeth Côr Cymru ddwywaith yn 2007 a 2011.

“Mae’n siŵr bod rhywbeth yn dŵr.  Ond mae’r côr fel rhyw gymdeithas. Mae ystod oedran gyda ni ac mae nifer o’r aelodau wedi bod bant ac wedi dod nôl i fyw i orllewin Cymru. Mae yna ddileit cytûn ac mae hi’n braf cael y gymysgedd a bod pawb yn cael cymdeithasu – ond ni yma i ganu.”

Stori: Ciron Gruffudd