Mae’r arlunydd Iwan Gwyn Parry wedi treulio dwy flynedd yn paratoi un o’r darluniau sy’n rhan o’i arddangosfa newydd yn Oriel Môn.

Mewn sied bren ar ddarn glas o dir o flaen ei dŷ teras yn Rachub, un o bentrefi chwarelyddol ardal Bethesda, mae’r artist yn treulio oriau yn nüwch nos yn paentio.

Mae ei ddarluniau newydd yn fwy lliwgar ac yn fwy breuddwydiol eu naws na rhai’r gorffennol – y rhai tywyll, dirdynnol o bentrefi chwarelyddol y gogledd, yn dangos ei gysylltiad clos a dwfn â’r dirwedd lawog, ddigysur.

Treuliodd dros ddwy flynedd ar y darlun tridarn enfawr sy’n brif atyniad ei arddangosfa newydd yn Oriel Môn, Llangefni.

“Mae’r glas yn fendigedig, dydi?” meddai am y glas llachar a gomisiynodd gan gwmni arbenigol ym Mharis. Mae’r paent wedi’i falu o lapis laswli.

“Ro’n i eisiau creu’r ffaith eich bod chi’n gallu diflannu i’r glas.

“Maen nhw’n paintings dwys. Yn anffodus, fedra’ i ddim iselhau’r ffaith eu bod nhw’n anodd ei dehongli. Dydyn nhw ddim at flas pawb. Ond mae’r lliw yn eich denu chi.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 27 Ionawr