Mae Prif Weinidog cyntaf Cymru wedi ei anrhydeddu wrth i bortread ohono gael ei dadorchuddio yn y Senedd.

Tan hynny roedd yn ddirgelwch i Rhodri Morgan pa un o weithiau’r arlunydd David Griffiths fyddai’n cael cartref newydd ym Mae Caerdydd a pha un yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae’r artist eisoes wedi anfarwoli gwleidyddion a phobol enwog o fyd y campau ar gynfas ac roedd yn ddewis naturiol i bortreadu Rhodri Morgan.

“Roedd ffrindiau Rhodri yn y Cynulliad ac yn y Senedd wedi penderfynu dathlu ei ddeng mlynedd a’i rôl hanesyddol fel y Prif Weinidog cyntaf trwy gomisiynu darlun,” eglura’r arlunydd David Griffiths.

“Wrth siarad â fe, a’i holi pa fath o lun fyddai e ei eisiau, dywedodd ei fod yn ddyn am yr awyr iach ond yn adnabyddus fel y Prif Weinidog. Felly penderfynais i wneud y ddau.”

A’r Prif Weinidog yn ymlacio gyda’i gi fydd i’w weld yn y Senedd tra bydd darlun ohono wrth ei ddesg yn y Cynulliad yn cael ei ddadorchuddio yn y Llyfrgell Genedlaethol dydd Sadwrn.

Doedd dim dewis ond cynnwys William Tell y ci yn y llun o Rhodri Morgan yn ymlacio yn yr ardd meddai David Griffiths am fod y ci “yn ei ddilyn i bob man” ac “mae’n amlwg bod y ddau’n ffoli ar ei gilydd”.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 27 Ionawr