Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r ffotograffydd Keith Morris o Aberystwyth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ddydd Sadwrn, Hydref 5.

Roedd y ffotograffydd adnabyddus wedi bod ar goll ers dydd Iau (Hydref 3).

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff ar draeth Borth, Ynyslas fore dydd Sadwrn. Dyw’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.

“Mab anwylaf y dref”

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion Elin Jones ar ei chyfrif Twitter: “Yr hollbresennol Keith Morris. Ar y prom, yn y dre’, ym mhob protest a phared. Yn adlewyrchu amrywiaeth lliwgar Aberystwyth yn ei luniau, ac yn eu cyhoeddi i’r byd. Mae meddwl am Aberystwyth heb Keith a’i gamera yn boenus o anodd. Ef oedd mab anwylaf y dref.”

Dywedodd Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig cwmni theatr Arad Goch ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore heddiw (dydd Llun, Hydref 7) bod Keith Morris “yn ddyn diwylliedig iawn ac mae archif ei waith yn mynd i fod yn drysor”.

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a’r Aelod Cynulliad, Alun Davies, wedi rhoi teyrngedau hefyd.

“Am newyddion trist ac hynod arw,” meddai Alun Davies. “Roedd Keith yn rhan o Aber ac yn rhan o Gymru. Mae ein holl feddyliau gyda’i deulu ac fe fyddwn ni yn ei golli’n fawr.”

Teyrngedau eraill

https://twitter.com/SeimonBrooks/status/1180538192828780544

Mae’n gadael ei wraig Gilly, dwy ferch, Ffion Jac a Sam Medeni, ac un wyr, Dexter.