Crochenwaith garw wedi’i ysbrydoli gan aber afon Conwy a’r traethau cyfagos sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio i artist lleol.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019  anrhydeddwyd  Bev Bell-Hughes, crochenydd o Gyffordd Llandudno, gyda’r Fedal Aur am Grefft a Dylunio. Yn ogystal, dyfarnwyd y wobr ariannol lawn o £5,000 iddi.

Nid yw Bev Bell-Hughes yn ddieithr i’r Eisteddfod – dros y blynyddoed mae hi wedi arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf droeon. Ac yn dilyn y dyfalbarhad dyma hi’n cipio’r fedal a hynny yn ei sir ei hunan.

Natur ddiamser ei gwaith apeliodd at y detholwyr Manon Awst, Bruce Haines aTeleri Lloyd Jones

Meddai’r arbenigwraig ar grefft a dylunio, Teleri Lloyd-Jones:

“Er mai ystrydeb yw sôn am y cyswllt rhwng clai a’r ddaear, mae gwerth ei hailadrodd yn y cyd-destun hwn,” meddai.

“Mae’r arwynebau’n anodd, yn greigiog a thyllog. Mae pob darn yn benderfynol o haniaethol, ac eto’n sibrwd ffurfiau a gweadau sy’n gyfarwydd i ni.

“Nid dynwared ydi hyn. Nid ail-becynnu natur er ein boddhad a wna’r darnau.”

Wrth gerdded ac archwilio traethau Deganwy a Morfa mae Bev Bell-Hughes yn gweld marciau’r llanw a’r trai ar y tywod, y gwymon a’r cregyn ac erydiad y creigiau.

Rhywdro nes ymlaen, fe ddaw ffurf gwaith newydd wrth weithio’n uniongyrchol â’r clai, yn gwasgu, pinsio ac ychwanegu deunyddiau eraill nes bod tyllau a chafnau’n ymddangos. Mae’r gwaith gorffenedig yn dal ac yn crynhoi hanfod elfennol y tirlun arfordirol.

Mae Bev Bell-Hughes yn Gadeirydd ar Gymdeithas Crochenwyr Gogledd Cymru; yn Ymddiriedolwr Celfyddydau Anabledd Cymru,/ac yn aelod Urdd Gwneuthurwyr Cymru.