Fe fydd darn o gelf gan yr arlunydd Banksy ym Mhort Talbot yn cael ei symud i oriel gelf newydd yn y dref.

Fe ymddangosodd y murlun dros nos ar garej y gweithiwr haearn, Ian Lewis, 55, yn ardal Taibach ym mis Rhagfyr y llynedd, ac mae’n cynnwys plentyn yn chwarae mewn cawod o ludw a mwg ger sgip sydd ar dân.

Ym mis Ionawr, fe gafodd y murlun ei brynu gan y gwerthwr celf, John Brandler, 63, am “swm chwe ffigwr” ar yr amod ei fod yn ei gadw yn ardal Port Talbot am o leiaf tair blynedd fel bod y cyhoedd yn cael cyfle i’w weld.

Mae’r gwaith o’i symud i’r oriel gelf wedi cychwyn heddiw (dydd Mawrth, Mai 28), wrth i dîm o gontractwyr o gwmni Andrew Scott Ltd geisio dorri rhan o’r wal yn rhydd. Mae’r wal eisoes wedi cael ei gorchuddio â resin er mwyn ei hatal rhag cracio.

Bydd swyddogion yr heddlu wedyn yn cynorthwyo’r lori a fydd yn gyfrifol am gario’r murlun i’w gartref newydd yn yr oriel yn Tŷ’r Orsaf, sef hen orsaf heddlu ynghanol Port Talbot.

Yn ôl Arweinydd Cyngor Castell-nedd, Rob Jones, mae’r murlun wedi dod â thipyn o gyhoeddusrwydd i’r ardal ers iddo gael ei greu, ac mae’n gobeithio y bydd yn esgor ar “sawl datblygiad addysgol ac economaidd” yn y dyfodol.