Mae cyfarwyddwr Galeri Uffizi yn Fflorens yn galw ar yr Almaen i ddychwelyd darlun gafodd ei ddwyn gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ôl Eike Shmidt, mae’r ‘Fas o Flodau’ gan yr artist Jan van Huysum o’r Iseldiroedd yn gampwaith sydd yn nwylo teulu yn yr Almaen sydd yn gwrthod gollwng gafael arno.

Yn hytrach, mae’r teulu wedi gofyn am dâl yn gyfnewid am y darn o gelf os yw’n mynd yn ôl i’r Eidal.

“Mae’r darlun eisoes yn eiddo’r wladwriaeth Eidalaidd, ac felly ni all gael ei ‘brynu’,” meddai Eike Shmidt.

Roedd y darn olew ar gynfas, wedi bod yn hongian fel rhan o gasgliad Palas Plasi yn Fflorens o 1824 tan ddechrau’r Ail Ryfel Byd.

Fe’i symudwyd i le diogel yn ystod y rhyfel, ond fe gafodd ei ddwyn gan filwyr yr Almaen wrth iddyn nhw adael yn 1945.