Mae’r hyn sydd am fod y cerflun efydd mwyaf yng ngwledydd Prydain yn cael ei adeiladu mewn pentref ym Mhowys.

Bydd y ‘Negesydd’ (‘Messenger)’, sy’n portreadu dynes yn ystumio ac yn costio £500,000, yn cael ei ddadorchuddio y tu allan i Theatr Frenhinol Plymouth y flwyddyn nesaf fel rhan o brosiect £7.4m i adnewyddu’r lle.

Yr artist Joseph Hillier sydd wedi’i gomisiynu i greu’r darn o gelf, ac ar hyn o bryd mae ar waith yn ffowndri Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym-mochnant. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y cerflun yn pwyso naw a hanner o dunelli.

Mae’n cael ei greu mewn 200 o baneli efydd, ac fe fydd angen 30 o grefftwyr er mwyn dod â’r holl ddarnau ynghyd.

 “Darn gwirioneddol fawr”

Yn ôl Joseph Hillier, cafodd ei ysbrydoli i greu’r darn ar ôl gweld actor yn ymarfer ar gyfer y ddrama Othello ar lwyfan y theatr yn Pymouth, Dyfnaint.

“Mae’n ddarn gwirioneddol fawr,” meddai’r artist o Gernyw. “Os ydw i’n gorwedd ar y llawr, dw i’r un faint â’i droed…

“Pan wnes i agosáu at y darn mewn cwm yng Nghymru – yn y ffowndri hon – fe gefais gryn sioc oherwydd doeddwn i ddim yn disgwyl ei weld yn ei faint go iawn.

“Ond mae ganddi ysgafnder o hyd – mae’n ysgafn ar ei thraed. Ambell waith, pan ydych chi’n creu rhywbeth mor fawr o ran ei faint, mae’n dod yn drymaidd, felly roeddwn i’n falch o gael y boddhad hwnnw.”