Dylai cerflun o fam Ivor Novello gael ei godi yn ardal Bae Caerdydd, yn ôl academydd o’r brifddinas.

Mae’r cyfansoddwr a’r actor o Gymru yn enwog ledled y byd am ei gyfraniad i’r byd cerddorol, ac yn 2009 cafodd cerflun ohono ei godi ger Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd.

Y cerflun yma yw testun un o’r deg ‘hysbyslen hanes’ a gafodd ei greu gan Dylan Foster Evans adeg Eisteddfod Caerdydd eleni, ac mae ei fodolaeth yn codi cwestiynau, meddai.

Mae’r hysbyslen yn tynnu sylw at “brinder dybryd o gerfluniau o fenywod yn y ddinas” ac mae’r academydd yn dadlau y dylai, Clara Novello Davies, gael ei choffau yn ardal y Bae yn ogystal â’i mab.

“Byddai’n braf cael cerflun ohoni hi hefyd,” meddai Dylan Foster Evans wrth golwg360. “Yn enwedig gan ei bod wedi cael ei bedyddio yn y Bae, yn Tiger Bay.

“Roedd ei theulu ei hun yn aelodau o’r capel yna. Mae’r lleoliad yna yn berffaith iddi. Bydden i’n dweud bod modd gosod hi i lawr ger Canolfan y Mileniwm, oherwydd y cysylltiadau cerddorol.

“Ond hefyd, rhaid cofio bod yna gysylltiad agos iawn rhyngddi hi a Loudon Square. Ardal sydd rhyw chwarter milltir i’r gogledd.”

Cafodd Clara Novello Davies ei bedyddio yng nghapel Bethania’r Docks ar Sgwâr Loudon.

Pwy oedd Clara Novello Davies?

Cafodd Clara Novello Davies ei geni yn ardal Treganna yn 1861, roedd yn Gymraes Gymraeg, ac yn gerddor adnabyddus.

Roedd hefyd yn athrawes gerddoriaeth, a hi sefydlodd Gôr Merched Brenhinol Cymru a berfformiodd yn ninasoedd Chicago a Paris.

“Roedd hi wedi dod â bri rhyngwladol i’r côr yma o Gymru. Ac roedd hi wedi arwain hwnna, a’i sefydlu, ei hun,” meddai Dylan Foster Evans wedyn.

“Roedd hi’n gymeriad ecsentrig ar lawer golwg, oedd yn cydnabod bod y capeli yn medru bod braidd yn gul ar adegau.

“Ond doedd hi erioed wedi troi cefn ar y diwylliant yna, ac roedd hi’n gefnogol iawn i’r diwylliant cerddorol Cymraeg ei iaith.

“Mae’n dweud yn ei hunangofiant bod bod yn ddwyieithog yn fantais fawr, a doedd hi ddim yn deall y bobol oedd yn gweld siarad mwy nag un iaith fel rhywbeth negyddol.”