Mae Paul McCartney wedi cyflwyno 63 o ffotograffau o waith ei wraig gyntaf, Linda, yn rhodd i Amgueddfa Victoria & Albert.

Mae grwpiau’r Beatles, y Rolling Stones a’r gitarydd Jimi Hendrix ymhlith yr artistiaid sydd wedi’u hanfarwoli, ac mae yna hefyd luniau o flodau a phlanhigion, ynghyd â phortreadau agos-atoch o’r teulu McCartney ar wyliau.

Fe ddaeth Linda McCartney yn ffotograffydd proffesiynol ganol y 1960au.

Fe fydd detholiad o’r ffotograffau yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Ffotograffiaeth y V&A, a fydd yn agor ei drysau am y tro cyntaf ym mis Hydref.

“Roedd Linda McCartney yn llygad-dyst talentog i ddiwylliant pop y cyfnod,” meddai curadur yr arddangosfa, Martin Barnes. “Ond roedd ei chamera hi hefyd yn dal eiliadau tyner gyda’i theulu.”