Mae ‘car’ wedi’i wneud allan o ddefnydd denim glas yn hongian o do canolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon – ac mae’n atgoffa’r artist a’i creodd o’r munud y bu’n rhaid iddi ddweud wrth ei mam ei hun nad oedd hi’n cael gyrru rhagor.

Eli Acheson-Elmassry sy’n gyfrifol am arddangosfa o eitemau tebyg hefyd, sy’n adrodd hanes ei mam yn byw â chlefyd Alzheimer ac yn colli gafael ar y byd o’i chwmpas.

Mae teitl y casgliad – Mum Mam Dumb Damn – yn cyfleu’r ansicrwydd mawr sy’n dod gyda’r cyflwr, a hwnnw o safbwynt y claf a’r rheiny o’i gwmpas sydd ddim yn gwybod beth i’w ddweud, na sut i ddelio â’r dicter, y rhwystredigaeth a’r mudandod weithiau.

Mam yr artist oedd Richenda Mary Acheson, a anwyd ym Mangor ac a fu farw ym Mhlas Penmon, Sir Fn, yn 2004.

“Roedd Mam wrth ei bodd yn gyrru car,” meddai Eli Acheson-Elmassry wrth gyfeirio at y gynfas las ar ffurf car Renault Clio sy’n hongian uwchben y bar yn Galeri.

“Diwrnod ofnadwy oedd hwnnw pan fu raid i mi dorri’r newydd iddi na allai hi yrru ei hannwyl Renault Clio mwyach.”

Mae ‘InAutomobile’ ar werth am £15,000.