Llun o Ioan Gruffudd gan Terry Morris
Mae Cymru ar ei cholled am nad oes ganddi Oriel Bortreadau Cenedlaethol, yn ôl ffotograffydd sydd wedi tynnu lluniau Syr Tom Jones a’r Fonesig Shirley Bassey.

“Ni yw’r unig wlad ym Mhrydain heb un,” meddai Terry Morris o Lanelli.

Mi fydd y ffotograffydd yn rhoi darlith yn ystod Gŵyl Lens 6: yn y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth ddydd Sadwrn – gŵyl sy’n edrych ar ddogfennu Cymru trwy’r lens.

Mae’r Llyfrgell yn cadw’r casgliad ffotograffig mwyaf Cymru, yn cynnwys dros 800,000 o luniau.

Ond yn ôl Terry Morris a fydd yn trafod ‘Cyflwr y Celfyddydau yng Nghymru’, mae yna ddiffyg cefnogaeth i artistiaid.

“Er bod gennym ni gyfoeth o dalent yng Nghymru – yn artistiaid, ffotograffwyr, cerflunwyr ac ati, mae hi’n frawychus cyn lleied o gefnogaeth sydd iddyn nhw.

“Mae yna fwlch enfawr rhwng y celfyddydau yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain. Mae unrhyw un o unrhyw werth yn gadael.

“R’yn ni angen ysbrydoli rhai ifanc. Canran isel iawn o bobol sy’n llwyddo yn y celfyddydau. Yng Nghymru, mae’r nifer yn arswydus o isel.”

Mae Terry Morris yn adnabyddus am ei bortreadau o Anthony Hopkins a Charlotte Church.

Mae nifer o’i luniau yn adnabyddus iawn – fel yr un o’r glöwr â’i wyneb wedi’i bardduo; ac un o ganwr y Stereophonics, Kelly Jones, yn pwyso ar wal a’i gitâr wrth ei draed.

“Pan fyddaf i yn darlithio i fyfyrwyr maen nhw’n meddwl fy mod i wedi gwneud hyn dros nos. Ond mae wedi cymryd 14 mlynedd i mi gyrraedd lle’r ydw i. Mae e wedi golygu llawer iawn o waith caled. Ro’n i bron â cholli fy nhŷ ar un adeg.”

Gŵyl Lens: Cymru a’r Byd – nos Wener – Sadwrn, Tachwedd 19 – 20, Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 18 Tachwedd