Tegwyn Francis Jones gyda'r darlun a ysbrydolwyd gan gariadon Cymraeg
Mae artist yn chwilio am ddau gariad sydd wedi ysbrydoli prif ddarn celf arddangosfa o’i waith.

Fe gafodd Tegwyn Francis Jones o bentref Bodedern ym Mon ei ysbrydoli i greu paentiad mawr o draeth Aberffraw, gan ddau gariad a welodd yn cerdded y tywod yn gynharach eleni.

Roedd y cyn-athro, sy’n creu cerfluniau a phrintiadau yn ogystal a phaentiadau, wedi bod yn gwylio’r cwpwl o bell, a’u gweld yn ysgrifennu rhywbeth yn y tywod. Wedi iddyn nhw gerdded ymaith, fe aeth Tegwyn Jones yno, a chodi’i galon o weld mai yn Gymraeg yr oedden nhw wedi mynegi eu serch tuag at ei gilydd.

“Be’ welais i oedd y geiriau ‘Ceredig caru Eleanor’, ac ro’n i mor falch mai’r gair Cymraeg, ‘caru’ oedd yn y galon,” meddai’r artist wrth golwg360.

Fe fydd arddangosfa Tegwyn Francis Jones ar y cyd a Luned Rhys Parri yn agod yn Oriel Mon, Llangefni ddydd Sadwrn nesaf (Gorffennaf 29) – ac fe fyddai’r paentiwr yn hoffi dod o hyd i Ceredig ac i Eleanor cyn hynny.

Mae ei waith yn seiliedig ar y thema ‘olion’ – a hynny’n amrywio o’r hyn y mae dyn yn ei adael ar ei ol; i olion yr iaith; a sut y mae gwarchod, amddiffyn ac aberthu tros ein diwylliant, yn yr un ffordd ag yr oedd yr hen Geltiaid yn ei gredu.

A ydych chi’n nabod Ceredig ac Eleanor? Os ydych chi, gadewch i ni wybod trwy adael sylw dan y stori hon.