'Pantycelyn' gan Wynne Melville Jones
Mae arlunydd o Geredigion wedi trefnu taith genedlaethol i un o’i ddarluniau am nad yw’n teimlo bod emynydd mwyaf Cymru yn cael y sylw y mae’n ei haeddu.

Fe ddylai Cymru fel cenedl ddathlu 300 mlwyddiant William Williams, Pantycelyn, un o’i ffigyrrau mwyaf diddorol a dylanwadol, meddai Wynne Melville Jones.

“Bu ar fy meddwl i baentio llun o Pantycelyn ers peth amser a hithau eleni yn benblwydd ei eni nawr oedd yr amser i wneud hynny”, meddai’r artist, sy’n egluro mai darlun o’i gartref ger Llanymddyfri a ddaeth i fwcwl yn y diwedd.

“Roeddwn wedi bod ym Mhantycelyn droeon pan oeddwn yn iau, a gallwn weld delwedd o’r hen ffermdy cyfarwydd yn glir ar fy nghof, dim ond i mi gau fy llygaid yn dynn…

“Mae’r darlun yn cynnwys delwedd draddodiadol o’r hen ffermdy gyda rhai ychwanegiadau symbolaidd,” meddai Wynne Melville Jones wedyn.

“Ym mlaen y darlun, mae yna ymgais gen i i gyfleu profiadau ysbrydol tanbaid a chymhleth y pererin unig rydyn ni’n ei nabod fel Y Pệr Ganiedydd.”

Mynd â Phantycelyn at y bobol

Bellach mae darlun Wynne Melville Jones ar daith o Gymru, gyda’r bwriad o geisio cyrraedd cynulleidfa eang mewn gwahanol ardaloedd.

Dangoswyd y llun adeg darlith Flynyddol Pantyfedwen gan Yr Athro Densil Morgan ar Williams Pantycelyn yn Aberystwyth ym mis Ebrill.

Mae gweddill y daith yn cynnwys ymweliadau â Siop Rhiannon yn Aberystwyth a Thregaron; archfarchnad Leekes yn Cross Hands; Y Sioe Fawr yn Llanelwedd; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn; yn ogystal â’r  Senedd ym Mae Caerdydd yn ystod yr hydref.