Caitlin, Eddie Ladd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol a British Council Cymru wedi cyhoeddi y bydd wyth o berfformiadau o Gymru yn teithio i Gaeredin ym mis Awst i berfformio yn yr ŵyl ymylol yno.

Fe fydd Eddie Ladd yn perfformio ei dawns Caitlin sy’n dilyn hanes gwraig Dylan Thomas sy’n ceisio camu o gysgod ei gŵr.

Yn ogystal, fe fydd Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn perfformio The Revlon Girl sy’n adrodd stori mamau o Aberfan yn canfod cysur yng nghwmni gwerthu colur wedi’r trychineb yn 1966 pan gafodd 144 o bobol eu lladd wedi i domen lo lithro dros y pentref.

‘Llwyddiant ysgubol

Mae’r perfformiadau eraill yn cynnwys y comedi Sugar Baby gan gwmni Dirty Protest yn dilyn hanes deliwr cyffuriau yng Nghaerdydd, ynghyd â (F.E.A.R.) gan Mr a Mrs Clark sy’n archwilio iechyd meddwl dynion.

Fe fydd perfformiad hefyd o’r ddawns Folk a Profundis gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, drama Seanmhair gan The Other Room, Not About Heroes gan Theatr Flying Bridge a Seagulls gan Theatr Volcano.

“Yn y gorffennol, mae cwmnïau o Gymru wedi cael llwyddiant ysgubol ac wedi creu argraff sylweddol yng ngŵyl berfformio fwyaf y byd,” meddai Nicholas Davies, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Rydym yn arbennig o falch o’r dewis eleni, sydd unwaith eto’n dangos safon ac amrediad y gwaith a’r talent rydym yn cynhyrchu yma,” ychwanegodd.