Mae label dillad yng Nghaerdydd yn lawnsio casgliad newydd yr haf hwn a fydd yn dathlu bywyd y ‘crys’ clasurol.

Mae’r label Xandra Jane yn canolbwyntio ar gynllunio a darparu dillad cynaladwy a di-ryw, sy’n addas i ddynion a merched eu gwisgo.

Fe gafodd ei sefydlu gan y cynllunydd ifanc, Alexandra Hall, ac mae wedi cyrraedd rowndiau terfynol nifer o ddigwyddiadau gwobrwyo cynaladwy dros y blynyddoedd, gan gynnwys cystadleuaeth Pencampwr Cynaladwy 2016.

Mae’r casgliad newydd, CRYS, yn bwriadu ailweithio’r hen ddilledyn clasurol a’i wneud yn fwy cyfoes.

“Mae pob dilledyn yn 100% unigryw ac wedi cael eu gwneud gan gynllunydd yng Nghaerdydd,” yn ôl datganiad gan y label.

Bydd y casglaid hefyd yn cyflwyno llinell newydd o ddilad sy’n cynnwys bagiau ysgafn wedi eu gwneud o grysau.