Tri Tryweryn 2013
Mae tri ymgyrchydd a osododd fom ar safle cronfa ddŵr Tryweryn hanner can mlynedd yn ôl wedi cwrdd am y tro cyntaf ers y weithred hanesyddol.

Bydd Tri Tryweryn yn cael eu cyfweld mewn rhaglen arbennig ar S4C am eu penderfyniad dadleuol i fomio’r safle yn oriau mân fore Sadwrn, 10 Chwefror 1963.

Cafodd dau ohonyn nhw – Emyr Llywelyn Jones ac Owain Williams – eu carcharu am ddifrodi trosglwyddydd ar y safle gyda’r bom. Y trydydd oedd John Albert Jones o Bwllheli ac mewn rhaglen o’r enw Tri Tryweryn mae Eifion Glyn yn mynd â nhw ’nôl i Dryweryn ac yn eu holi am eu teimladau am y weithred erbyn hyn.

“Doedd y tri ddim wedi bod gyda’i gilydd ers noson y weithred yng nghanol gaeaf caled 1962-63,” meddai Eifion Glyn, sy’n cyflwyno ac yn cynhyrchu’r rhaglen. .

“Roedd y tri yn bobol wahanol iawn i’w gilydd mewn mwy nag un ystyr – Emyr Llywelyn, myfyriwr prifysgol o Geredigion, yn dod o deulu diwylliedig, yn fab i T. Llew Jones ac yn perthyn i Fois y Cilie; Owain Williams yn fab i ffermwr, newydd ddychwelyd o fyw yng Nghanada ac yn rhedeg caffi ym Mhwllheli; John Albert yn gyn-aelod o’r heddlu milwrol gyda’r Llu Awyr.”

Yr un peth dynnodd y tri at ei gilydd oedd bwriad Corfforaeth Dinas Lerpwl i foddi pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Sir Feirionnydd.

IRA a’r ddau Dai

Mae’r rhaglen yn datgelu i Emyr Llywelyn fynd i Iwerddon i geisio cael cyngor gan hen weriniaethwyr yr IRA ar sut i wneud bom. Ond, yn y pen draw, cael cyngor wnaeth e gan gynllunydd o un o gymoedd Gwent, David Pritchard, a oedd wedi cyflawni difrod ar safle Tryweryn ym Medi 1962 gyda chyfaill o’r un ardal, David Walters.

“Roedd y ffrwydrad yn Nhryweryn yn drobwynt yn hanes Cymru yn ôl rhai haneswyr,” meddai Eifion Glyn.

“Fe roddodd hwb i’r mudiad cenedlaethol a’r hunaniaeth Gymreig. Mae’r cyfarfod rhwng y tri hefyd yn ddigwyddiad hanesyddol a reit emosiynol.”

Bydd Tri Tryweryn yn cael ei darlledu ar S4C ar nos Fawrth 5 Chwefror am 9 o’r gloch.