Dylid ystyried y celfyddydau’n rhan o’r ateb ac nid y broblem pan fydd ymlediad y coronafeirws ar ben, yn ôl Plaid Cymru.

Mae lleoliadau ledled Cymru ynghau o hyd, ac mae miloedd o berfformwyr, dylunwyr ac artistiaid eraill heb waith i’w cynnal a heb sicrwydd pryd fydd modd iddyn nhw ddechrau dychwelyd i’r gwaith.

Ond mae’r celfyddydau wedi bod yn fodd i fyw i rai pobol dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, gyda rhaglenni teledu a radio, y we, llyfrau, ffilmiau a dramâu yn gwmni i rai pobol yn ystod cyfnod anodd ac unig.

‘Rhan bwysig o atal problemau rhag gwaethygu’

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon a llefarydd diwylliant y blaid yn y Senedd, gallai’r celfyddydau helpu i ddeall bywyd yn ystod gwarchae’r coronafeirws er mwyn paratoi ar gyfer yr amser pan fydd lleoliadau’n agor eto yn y dyfodol.

“Mae sîn gelfyddydol Cymru’n wastad wedi bod yn rhan bwysig o atal problemau rhag gwaethygu,” meddai.

“Mae’r celfyddydau creadigol wedi eu gwreiddio yn ein cwricwlwm, ac y mae’n rhan bwysig o’n hunaniaeth.

“Mae sîn gelfyddydol Cymru yn wahanol iawn i un Lloegr, a hoffwn weld Cymru yn arwain y ffordd ac yn defnyddio’n cryfderau a’n diwydiannau creadigol i’n helpu i ddod trwy effaith negyddol cyfnod maith o gloi.

“Gall diwydiant y celfyddydau helpu Llywodraeth Cymru i gyfleu ei negeseuon allweddol, ond os na wnawn roi’r celfyddydau creadigol wrth galon mentrau, a rhoi rhan iddynt chwarae yn ystod y pandemig, mae arna’i ofn ein bod mewn perygl o golli pobl dalentog, ac y mae hyn yn rhy bwysig i’w anwybyddu.

“Sôn yr ydym am fuddsoddi yn ein dyfodol, nid rhoi cardod.”

‘Rhyddhad yn werth y byd’

Mae barn a sylwadau Siân Gwenllian wedi’u hategu gan nifer o ffigurau blaenllaw’r celfyddydau.

Ymhlith y rhai sydd wedi lleisio barn mae Geinor Styles, cyfarwyddwraig artistig Theatr na nÓg, ac Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gorawl Ryngwladol Cymru.

“I lawer aelwyd, mae’r rhyddhad a roddwyd gan gerddoriaeth, llenyddiaeth a drama yn werth y byd,” meddai Geinor Styles.

“Mae wedi ein hatgoffa pa mor werthfawr yw’r celfyddydau, a pham eu bod yn cael eu cyllido.

“Gwyddom pa mor rymus yw adrodd storïau, a gallai diwydiant y celfyddydau chwarae rhan wirioneddol bwysig i helpu pobl i ddeall beth sy’n digwydd a chyfleu’r neges y gallwn ddod trwy hyn gyda’n gilydd.

“Dylai’r celfyddydau fod yn rhan o’r ateb: rhowch le i ni wrth y bwrdd, a gallwn ddangos i chi rym y celfyddydau i’ch helpu i gyfleu eich neges.”

‘Dianc am gyfnod’

Yn ôl Eilir Owen Griffiths, gall y celfyddydau helpu pobol ifanc i ddianc am gyfnod o’r sefyllfa maen nhw ynddi ar hyn o bryd.

“Ni ddylem anwybyddu effaith bod mewn cyfnod cloi am amser maith, ac y mae gan y celfyddydau ran bwysig wrth helpu pobl i ddianc o’u sefyllfa bresennol,” meddai.

“Ac eto, po hwyaf y bydd y cyfyngiadau ar waith, mwyaf yw’r perygl o beidio â chael diwydiant celfyddydau o gwbl ar ddiwedd y pandemig.

“Hyd yn oed os bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio i ganiatáu i bobl ymgynnull, fydd theatrau ddim yn gallu agor yn syth oherwydd yr oedi cyn i’r cynnwys ddechrau ymddangos eto.

“Mae’r ansicrwydd am ddyfodol y theatr yn golygu ansicrwydd i actorion a pherfformwyr ifanc, ac yr wyf yn pryderu am ddyfodol y myfyrwyr y bûm yn eu hyfforddi dros y blynyddoedd diwethaf.

“Buaswn yn croesawu unrhyw gamau fyddai’n defnyddio’r diwydiant celfyddydau cyn iddi fod yn rhy hwyr.”