Bydd Gŵyl Gomedi Machynlleth yn mynd yn ei blaen wedi’r cyfan – ond ar y radio.

Cafodd yr ŵyl ei gohirio yn sgil y coronafeirws, ond fydd ei dilynwyr ddim yn gorfod colli allan, gan fwynhau’r arlwy fydd ar gael ar Radio Wales.

Bydd hi’n cael ei chynnal ar y dyddiadau gwreiddiol, sef Mai 1-3, gyda chyfuniad o berfformwyr stand-yp a chabaret.

Yn ogystal, bydd yr ŵyl eleni yn cynnwys trosolwg ddogfennol o’r ddeng mlynedd diwethaf, gyda sgyrsiau â rhai o’r perfformwyr sydd wedi cymryd rhan dros y blynyddoedd.

Mae digrifwyr a pherfformwyr o Gymru, gwledydd Prydain a’r byd yn cymryd rhan.

Partneriaeth ‘werthfawr’

“Mae’r cydweithrediad yma gyda Gŵyl Gomedi Machynlleth yn fenter ddiweddar gan BBC Radio Wales, yng nghanol yr amseroedd heriol yma, i barhau i ddiddanu gwrandawyr yn ogystal â rhoi gwybodaeth iddyn nhw,” meddai Colin Paterson, golygydd yr orsaf.

“Rydyn ni wastad yn mwynhau gweithio gyda’r tîm ym Machynlleth, felly rydyn ni’n falch o gael chwarae ein rhan ni wrth gefnogi cwmnïau cynhyrchu annibynnol a’r gymuned gelfyddydol yng Nghymru.

“Rydyn ni wrth ein boddau yn medru noddi Gŵyl Machynlleth ar y cyd â BBC Radio Wales,” meddai Henry Widdicombe, cyfarwyddwr yr ŵyl.

“Rydym yn hapus i fod yn creu rhaglen newydd i rai o ddilynwyr rheolaidd yr ŵyl.

“Rydym yn falch iawn o’n perthynas hir dymor gyda BBC Radio Wales, ac mae’r ymrwymiad mae’r orsaf wedi ei ddangos i’r wyl yn ystod y cyfnod yma yn profi pa mor werthfawr yw’r bartneriaeth i’r naill a’r llall.

“Mae’r celfyddydau yn wynebu heriau na welwyd erioed ar hyn o bryd, ond mae’r rhai creadigol yn ateb i’r her ac rydyn ni’n credu y bydd y rhaglen yn adlewyrchu hynny.”