Mae’r BBC yn paratoi at gau i lawr yr app BBC iPlayer Radio o fewn yr wythnosau nesaf, wrth i’r gorfforaeth ganolbwyntio ar BBC Sounds.

Mae rhai defnyddwyr eisoes wedi cwyno fod BBC Sounds ddim yn gweithio cysstal â’i ragflaenydd, ac mae defnyddwyr yng Nghymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes modd cofrestru na defnyddio’r gwasanaeth newydd trwy gyfrwng y Gymraeg – er bod rhaglenni Cymraeg i’w clywed arno.

Fe gafodd BBC Sounds ei lansio y llynedd a’i ddisgrifio fel “cartref digidol” ar gyfer holl gynnwys sain y BBC – yn cynnwys miwsig, podlediadau a gorsafoedd radio.

Mae’r BBC wedi cyhoeddi ei bod hi’n bryd “diffodd” iPlayer Radio oherwydd fod Sounds bellach wedi ennill ei dir.