Mae’r seren pop Ellie Goulding wedi cadarnhau ei bod am briodi Caspar Jopling wedi iddyn nhw ddyweddio flwyddyn yn ôl .

Fe gyhoeddodd y ddau eu bwriad i briodi fis Awst y llynedd mewn hysbyseb ym mhapur newydd The Times.

Mae Goulding yn ffrindiau gyda aelodau o deulu brenhinol Lloegr gan iddi berfformio gerbron Dug a Duges Caergrawnt yn eu parti priodas ym 2011 ac fel gwestai gyda Jopling ym mhriodas y Dywysoges Eugenie fis Hydref diwethaf.

Deliwr celf ydi Mr Jopling a gafodd ei addysg yn Eton a Harvard, ac mae wedi astudio ffilm, hanes celf a phensaerniaeth.

Dywedir ei fod yn rwyfwr sgilgar ac wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid.

Bu’n gweithio gyda arwerthwyr Christie’s a nawr mae o yn gweithio gyda Sotheby’s.

Daw ei deulu o Neuadd Frickley, ger Doncaster, De Swydd Efrog.