Mae cynhyrchwyr sioe lwyfan sy’n addasiad modern o stori Rapynsel wedi penderfynu creu fersiwn Cymraeg wrth iddi fynd ar daith ledled Cymru yn ystod y gwanwyn eleni.

Mae The Girl with Incredibly Long Hair/Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir wedi cael ei chynhyrchu gan gwmni theatr We Made This, ac mae’r stori yn dilyn hynt Rapynsel, ei mam, a’i ffrind newydd, Daf, wrth iddyn nhw fynd ar antur i ganol coedwig.

Yn ôl y cynhyrchwyr, maen nhw wedi penderfynu ychwanegu fersiwn Cymraeg i’r daith er mwyn i deuluoedd allu “mwynhau ein rebel Rapynsel a’n gwas pobydd, Daf, yn nwy iaith ein cenedl.”

Mae cast y sioe ddwyieithog yn cynnwys Tonya Smith (Mam), Owen Alun (Daf) a Lara Catrin (Rapynsel), ac mae’r fersiwn Cymraeg wedi’i gyfieithu gan Catrin Wyn Lewis.

“Ailddychmygiad”

Mae’r cynhyrchwyr yn pwysleisio mai “ailddychmygiad” o stori Rapynsel “ar gyfer ein hoes ni” yw’r sioe.

“Roedd hi’n rhwystredig i ni yn yr 21ain ganrif fod cynifer o lyfrau plant yn parhau i gynnig darlun hen ffasiwn iawn o’r byd,” meddai Matt Ball, y cyfarwyddwr.

“Sawl stori sy’n cynnwys tywysoges yn aros i gael ei hachub gan dywysog? Neu ferch sy’n hoffi ffrogiau disglair a bachgen sy’n hoffi bod yn fwdlyd?

“O’r trafodaethau hyn y deilliodd The Girl with the Incredibly Long Hair, ailddychmygiad o Rapynsel, lle nad oes rhaid iddi gael ei hachub gan y tywysog.

“Dyma’r math o sioe rydym am i’n plant ei gweld.”