Mae artist o Geredigion yn dweud bod yna “brinder” o ran artistiaid sy’n fodlon gwneud gwaith darlunio ar gyfer llyfrau yng Nghymru.

Mae Valériane Leblond, sy’n hanu o Ffrainc ond bellach wedi ymgartrefu yn Llangwyryfon, wedi cael blwyddyn brysur yn darlunio ar gyfer llyfrau a chynnal gwahanol arddangosfeydd.

Mae 2019 yn argoeli’n flwyddyn dda iddi hefyd, gyda llyfr yn cynnwys ei gwaith yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer cyn y Nadolig ac arddangosfa yn West Virginia ar y cyd â’r arlunydd Peter Stevenson.

Mae’n disgrifio ei gwaith celf ei hun yn “werinol”, ac ychwanega ei bod hi’n “lwcus iawn” o gael digon o waith gan weisg.

Ond mae hynny’n codi’r cwestiwn, meddai, ynglŷn â faint o bobol sy’n fodlon gwneud y gwaith yng Nghymru, er bod yna ddigon o ddiddordeb.

“Dw i’n meddwl bod digon o bobol sydd eisiau ei wneud e, a phobol o Gymru sy’n dweud y bydden nhw’n hoffi darlunio llyfr plant, ond sa i’n siŵr os yw’r arian sydd ar gael yng Nghymru yn werth e i rai pobol,” meddai.

Dyma glip o Valériane Leblond yn esbonio pam y mae darlunio ar gyfer llyfrau yn waith sy’n bwysig iddi fel artist.