Mi fydd un o brif gyfarfodydd pobol sy’n gweithio yn y cyfryngau creadigol yn dod i Gaerdydd y flwyddyn nesa’.

Daw’r cyhoeddiad hwn ychydig ddyddiau ar ôl i’r brifddinas gyflwyno cynnig ar wahân i ddod â phencadlys Channel 4 i Gaerdydd.

Mae’r confensiwn yn gydweithrediad rhwng y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Pact, ac yn gyfle i bobol sy’n gweithio yn y cyfryngau creadigol ddod ynghyd.

Fe gafodd y confensiwn ei gynnal eleni yn Leeds, ac yn ystod y digwyddiad hwnnw fe fu raid i gynrychiolwyr o Gaerdydd gyflwyno syniadau i ddirprwyon ar gyfer cynnal y digwyddiad y flwyddyn nesa’.

Cais Caerdydd a ddaeth yn fuddugol, gan drechu ceisiadau Bryste a Glasgow a oedd hefyd ar y rhestr fer.

“Newyddion da”

Yn ôl Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Huw Thomas, mae hyn yn “newyddion da” i Gaerdydd.

“Fe ddaeth sector creadigol y ddinas ynghyd i greu’r cyflwyniad ar fyr rybudd, ac mae’r llwyddiant yma’n gydnabyddiaeth amlwg fod sector creadigol Caerdydd yn ganolfan sy’n bwysig i Brydain gyfan,” meddai.

“Mae’n dangos bod y diwydiant yn cydnabod bod Caerdydd yn rhan allweddol o’r sector hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd ennill y Confensiwn yn rhoi mwy o reswm i Channel 4 edrych ar brifddinas Cymru fel cartref delfrydol ar gyfer eu pencadlys newydd.”