Mae Christine Bradwell wedi ei phenodi’n Gadeirydd newydd ar fwrdd Music Theatre Wales (MTW).

Fe fydd hi’n olynu Geraint Davies, sydd wedi camu o’r neilltu ar ôl degawd wrth y llyw, a hi fydd yn llenwi’r rôl am y tair blynedd nesa’.

Yn gyn-Gyfarwyddwr Drama a Dawns gyda’r Cyngor Prydeinig, mi fydd hi’n ymddeol o’i swydd yn Brif Weithredwr ar ganolfan Anvil Arts – yn Basingstoke, Lloegr – ddiwedd y mis hwn.

Yn ôl Cyfarwyddwr Artistig MTW, Michael McCarthy, bydd Christine Bradwell yn dod â “chyfoeth o sgiliau artistig a sgiliau ym maes rheoli’r celfyddydau i’r cwmni”.

“Herio syniadau”

“Ers cyfnod maith, mae Music Theatre Wales wedi bod yn enghraifft dda o uchelgais artistig,” meddai Christine Bradwell.

“Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hwy wrth iddyn nhw barhau i esblygu a herio’r syniadau ynglŷn â’r hyn y gall opera a theatr gerdd fod.”