Mae dau o hoelion wyth tref Rhuddlan yn Sir Ddinbych wedi bod yn cofio’r argraff y mae un o ffotograffwyr yr ardal wedi’i greu ar y byd.

Mewn noson yn Llyfrgell Rhuddlan i nodi degawd i’r diwrnod ers marw Philip Jones Grifffiths (Mawrth 19, 2008), fe aeth cadeirydd Cymdeithas Hanes Rhuddlan mor bell â’i gymharu ag un o gyn-Brif Weinidogion enwocaf gwledydd Prydain.

“Fel Cymry, efallai ein bod ni’n credu mai David Lloyd George ydi’r gwleidydd gorau – a’r Prif Weinidog mwya’ dylanwadol – a ddaeth o Gymru erioed,” meddai David Thomas.

“Ond mi lwyddodd Philip (Jones Griffiths) i wneud rhywbeth nad ydi’r un gwleidydd erioed wedi gallu ei wneud, sef siglo llywodraeth yr Unol Daleithiau, a newid barn pobol America.”

Fe ddaeth lluniau Philip Jones Griffith o Fiet-nam, ac yn arbennig o ddioddefaint pobol gyffredin y wlad dan law bomiau America, yn fyd-enwog pan gyhoeddwyd ei gyfrol, Vietnam Inc., yn 1971.

Ac mae cynghorydd a chyn-Faer Rhuddlan yn dweud mai ei fagwaeth ar arfordir gogledd Cymru, a roddodd i Philip Jones Griffiths y gallu i uniaethu â phobol dan fygythiad a gormes.

“Roedd Philip yn cofio sut deimlad oedd gweld ymwelwyr yn dod yma o Loegr yn eu ceir… a rhai ohonyn nhw’n aros yma ac yn dod yma i fyw,” meddai’r Cynghorydd Arwel Roberts.

“Efallai nad ethnic cleansing oedd o, ond yr un oedd yr effaith… a wnaeth Philip erioed anghofio sut brofiad oedd byw drws nesa’ i wlad fawr a iaith fawr, a ninnau’n ymladd i gadw ein iaith yn fyw.

“A dw i’n siwr mai dyna oedd yn ei alluogi fo i allu uniaethu efo pobol Fiet-nam yn wyneb bygythiad gwlad fawr fel America.”

Yn ystod y noson, fe gyhoeddwyd cofiant Ioan Roberts i’r ffotograffydd, Philip Jones Griffiths: Ei Fywyd a’i Luniau.