Fe fydd Aled Samuel yn rhoi perfformiad stand-yp am y tro cyntaf erioed fis nesa’, er mwyn codi arian i gronfa’r diweddar wr camera, Andrew ‘Pwmps’ Davies.

‘Noson y ffŵl’ yw enw’r digwyddiad yn nhafarn Yr Angel, gyda’r ddigrifwraig Myfanwy Alexander a’r cerddor Lleuwen Steffan hefyd yn cymryd rhan.

Er mai “noson o hwyl” fydd hon, yn ôl y digrifwr, mae’n debyg y bydd yn “gwbwl anaddas” i blant dan 16. “Dyma fy nghyfle i i fod yn rude!” meddai wrth golwg360.

Cronfa Andrew Pwmps

Nod y noson yw codi arian i Gronfa Andrew Pwmps – cronfa a gafodd ei sefydlu wedi marwolaeth y dyn camera Andrew Pwmps o ganser yn 2016 – a bydd holl elw’r noson yn mynd tuag ati.

Hyd yma mae’r elusen restredig wedi llwyddo £23,000 yn ei enw, ac mae’i ymddiriedolwyr wrthi’n apelio am geisiadau gan bobol o fewn y diwydiant creadigol sy’n cael triniaeth am ganser.

“Mae ystod eang o bobol yn medru manteisio ar y gronfa ac r’yn ni’n annog pobol i wneud cais am gymorth,” meddai’r actores Rhian Morgan, sy’n aelod o’r elusen (ac yn wraig i Aled Sam).

“Achos yr hinsawdd sydd ohoni mae’n anodd iawn cael unrhyw fath o gefnogaeth pan dydych chi methu gweithio -yn enwedig pobol lawrydd.

“Yn aml iawn, does dim gyda nhw llawer i gwympo yn ôl arno pan maen nhw’n mynd yn dost. Mae’r gronfa yma yn gobeithio helpu pobol pan maen nhw ei angen e fwya’.”