Tegwyn Francis Jones gyda'r darlun a ysbrydolwyd gan Ceredig ac Eleanor ar draeth Aberffraw
Mae artist o bentref Bodedern wedi dod o hyd i’r ddau gariad a dorrodd eu henwau yn y tywod ar un o draethau Mon ddechrau’r flwyddyn a dod yn destun un o’i ddarluniau mwyaf dramatig a chariadus.

Roedd y darlun o’r ysgrifen yn y tywod ar draeth Aberffraw yn un o brif ddarnau arddangosfa gan Tegwyn Francis Jones ar y cyd â Luned Rhys Parri yn Oriel Mon, Llangefni, trwy gydol mis Awst.

Roedd wedi gobeithio y byddai ‘Ceredig ac Eleanor’ wedi gallu dod i’r agoriad ddiwedd Gorffennaf, neu o leiaf weld y gwaith yr oedden nhw wedi’i ysbrydoli. Ond doedd neb fel taen nhw’n gwybod pwy oedd y ddau gariad… tan rwan.

Mae Tegwyn Jones a’i wraig, Brenda, sydd hefyd yn artist, bellach mewn cysylltiad gyda’r cwpwl sy’n byw yn Seland Newydd. A bonws annisgwyl ydi fod Ceredig y darlun hefyd yn artist.

“Roedd pethau wedi bod yn reit ddistaw ers yr arddangosfa,” meddai Tegwyn Jones wrth golwg360, cyn egluro sut y daeth chwaer i’w fab-yng-nghyfraith o hyd i gysylltiad posib yn y fideo hwn:

Felly, pwy ydi’r cariadon?

Cerflunydd ac adeiladwr ydi Ceredig ap Dafydd, ac mae’n hanu o Abertawe. Eleanor – neu ‘Ellie’ – ydi ei ddyweddi y gwnaeth ei chyfarfod yn y ddinas honno, ac mae hi bellach yn dysgu siarad Cymraeg.

Roedd yntau wedi cynnal arddangosfa yng Nghaerfyrddin y llynedd. Mae’n arbenigo mewn gosodiadau celf yn hytrach na chreu darluniau – pethau sy’n cael eu trefnu a’u dangos, cyn diflannu – rhywbeth tebyg i’r ysgrifen yn y tywod a gafodd ei golchi ymaith gan y llanw yn Aberffraw.

Mae Ceredig ap Dafydd a’i gariad ar hyn o bryd yn treulio blwyddyn yn Seland Newydd yn gweithio yn y byd adeiladu ac yn ennill profiad o’r byd mawr, cyn gobeithio dychwelyd i Gymru.

Ond cyn cychwyn am Seland Newydd, roedd wedi mynd â’i ddarpar wraig i Sir Fon ym mis Chwefror eleni, er mwyn ei chyflwyno i rai aelodau o’r teulu, yn cynnwys ei daid. A dyna pryd y datganodd ei gariad tuag ati yn y tywod…

Ceredig yn “methu credu”

Mewn neges ebost o Seland Newydd, dyma sut y daeth cadarnhad gan Ceredig ap Dafydd mai ei law ef oedd yn nhywod Aberffraw:

Ia, y fi ydy Ceredig, a wedi dyweddio i Eleanor. Yn ymweld a teulu y gogs dros y blwyddyn newydd cyn mynd am dro ar Aberffraw. Wedi cal fy nenu i’r lle gan fod yn hen llys Llywelyn Fawr. Rhai o ddyddiau olaf y ddau ohonon ni yng Ngymru, a deud y gwir, cyn symud i Seland Newydd.
Roeddwn methu credu y cyd-ddigwyddiad, ond wedi adnabod yn syth – ac Ellie yn ddagrau i gyd! Rydym ni’n dau wrth ein bodd. Ma na rhywbeth hyfryd i mi fod y datganiad dros dro wedi cal ei gadarnhau mewn darn parahol o’n cariad.
Mae’n fraint i gal bod yn ysbrydoliaeth ac yn destun darn o waith.
Ceredig